BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 No. 1699 (Cy. 160) (C. 87)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101699_we_1.html

[New search] [Help]


 

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010

Gwnaed

24 Mehefin 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn –

Y diwrnod penodedig ar gyfer ardaloedd a bennir

2.–(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys o ran yr ardaloedd awdurdod lleol a bennir yn erthygl 3.

(2) Daw'r darpariaethau hynny yn Rhan 3 o Fesur 2010 a nodir yn yr Atodlen i rym ar 1 Medi 2010.

Ardaloedd a bennir

3. Ardaloedd yr awdurdodau lleol a bennir at ddibenion erthygl 2 yw –

(a) Merthyr Tudful(2);

(b) Casnewydd;

(c) Rhondda Cynon Taf; ac

(ch) Wrecsam.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2010

Darpariaethau Rhan 3

YR ATODLEN 1

1. Adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd)

2. Adran 58 ac eithrio is-baragraffau (b), (c) a (d) o is-adran (6) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd)

3. Adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd)

4. Adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd)

5. Adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

6. Adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

7. Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

8. Adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd)

9. Adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn Rhan 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ("y Mesur") i effaith ar 1 Medi 2010 yn yr ardaloedd penodedig. Yr ardaloedd penodedig yw ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Mae Rhan 3 o'r Mesur yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd ("ICiD") yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Leol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan mewn sefydlu'r tîm. Mae adran 58 o'r Mesur yn nodi'r mathau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac y mae adran 58(6) yn pennu'r categorïau o oedolion a all fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teuluol. Paragraff (a) yn unig o adran 58(6) a gychwynnir. Hynny yw, ni chaiff tîm ICiD dderbyn atgyfeiriadau mewn perthynas â theulu ac eithrio pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth arall ynglŷn â chyllido timau ICiD (a.59) a chyfansoddiad y timau ICiD (a. 60). Mae adrannau 61 a 62 yn darparu am sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio'r timau. Mae adran 63 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am amrywiol agweddau o weithrediad y timau a'r byrddau ICiD. Mae adran 64 yn gwneud yn ofynnol bod bwrdd yn paratoi adroddiad blynyddol ar y tîm. Mae adran 65 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a thimau a byrddau ICiD yn rhoi roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(1)

2010 mccc. 1 Back [1]

(2)

Yr ardaloedd awdurdod lleol a ddynodir yn ardaloedd a bennir yw'r rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) Back [2]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101699_we_1.html