BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 No. 1701 (Cy. 162) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101701_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
24 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2010
Yn dod i rym
1 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 58(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru(2)
(3) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "Mesur 2010" ("the 2010 Measure") yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2. Mae'r swyddogaethau a nodir yn yr Atodlen yn swyddogaethau cymorth i deuluoedd at ddibenion Rhan 3 o Fesur 2010.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2010
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (fel y bo'n gymwys drwy weithrediad a.28A o'r Ddeddf honno) (Darparu Gwasanaethau Lles) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) i blant sydd mewn angen ("in need") at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyflawni unrhyw asesiadau at y dibenion hynny. |
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) | |
a.17 ac Atodlen 2, rhan 1 o Ddeddf Plant 1989 (Darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill) | |
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) | |
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a'r cyfarwyddiadau a wnaed odani (Trefniadau lles) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) neu gyfleusterau i hybu lles personau dros 18 oed sy'n gymwys i gael gwasanaethau o dan yr adrannau hynny am eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, yn ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, yn rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam- drin neu am eu bod yn rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny. |
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Darparu Gwasanaethau Lles) | |
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) | |
a.6 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Asesiadau: personau â chyfrifoldeb rhiant) | |
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu â thrin plant, sydd mewn angen at ddibenion a.17 o Ddeddf Plant 1989 ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau neu gyfleusterau. |
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) | |
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) | |
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) | |
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu-gwasanaethau penodol) | |
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau gyda chyrff eraill) | |
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd ar gyfer personau, neu â thrin personau, sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, neu sy'n ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, sy'n rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu'n rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau, cyfleusterau neu driniaeth. |
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) | |
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) | |
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) | |
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) | |
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau â chyrff eraill) | |
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi pa rai o swyddogaethau awdurdod lleol a swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol sy'n "swyddogaethau cymorth i deuluoedd" at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) ("y Mesur") Mae adran 57 o'r Mesur yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd ("ICiD") yn eu hardal ac yn gwneud yn ofynnol bod Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd rhan yn eu sefydlu. Nid yw'r timau ICiD yn endidau cyfreithiol ar wahân, ond maent yn dwyn yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol at ei gilydd i gyflawni rhai swyddogaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn rhoi sylw i faterion teuluoedd y ceir atgyfeirio'u hachosion atynt.
Mae adran 58(2) o'r Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi rhai o blith swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol a rhai swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG fel "swyddogaethau cymorth i deuluoedd". Rhaid i awdurdod lleol, gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan, benderfynu pa rai o "swyddogaethau cymorth i deuluoedd" yr awdurdod ei hun a'r Bwrdd Iechyd Lleol i'w dosbarthu i'r tîm ICiD.
Mae is-adrannau (5) i (8) o adran 58 yn nodi'r mathau penodol o achosion y caiff awdurdod lleol eu cyfeirio at dîm ICiD. Mae'r swyddogaethau statudol a nodwyd yn gymwys yn ehangach nag y gallai fod yn ofynnol yn y mathau o achos o dan sylw, ac felly mae'r tablau yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys testun sy'n cyfyngu'r ffocws i'r maes perthnasol.
Mae adran 58(12) o'r Mesur yn darparu y bydd swyddogaethau sydd wedi eu rhagnodi fel "swyddogaethau cymorth i deuluoedd" ac wedi eu dosbarthu i dîm ICiD yn parhau i gael eu harfer gan yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y tu allan i'r tîm, yn ogystal â chael eu cyflawni o fewn y tîm.
2010 mccc 1. Back [1]
Mae'r pŵer galluogi y gwnaed y Rheoliadau hyn odano wedi ei ddwyn i rym mewn perthynas, yn unig, â'r ardaloedd penodol a ragnodir yng Ngorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(Cychwyn) 2010 (O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87). Yr ardaloedd hynny yw ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam. Back [2]