BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 No. 1703 (Cy. 163)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101703_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

Gwnaed

28 Mehefin 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mehefin 2010

Yn dod i rym

30 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf honno(1):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–

(2) Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd i gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei "gael wedi cyflawni" tramgwydd os yw'r person hwnnw–

(a) wedi ei gollfarnu am dramgwydd;

(b) wedi ei gael yn ddieuog o dramgwydd oherwydd gwallgofrwydd;

(c) wedi ei gael yn anabl a'i fod wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni mewn perthynas â thramgwydd o'r fath; neu

(ch) ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybudd(4) mewn perthynas â thramgwydd gan swyddog o'r heddlu.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd sy'n "berthynol i" dramgwydd os yw'r person hwnnw wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd o–

(a) ceisio cyflawni, cynllwynio i gyflawni, neu annog cyflawni'r tramgwydd hwnnw; neu

(b) cynorthwyo, cefnogi, cynghori neu beri cyflawni'r tramgwydd hwnnw.

Gofal plant a thramgwyddau yn erbyn plant neu oedolion

3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) a rheoliad 9, mae person ("P") wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o'r paragraffau (2) i (8) yn gymwys.

(2) Gwnaed unrhyw un o'r gorchmynion neu benderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1–

(a) mewn perthynas â P;

(b) sy'n rhwystro P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster lle y gofelir am blant neu rhag cyfranogi mewn rheoli, neu rhag ymwneud rywfodd arall â darparu unrhyw gyfleuster o'r fath; neu

(c) mewn perthynas â phlentyn a fu yng ngofal P.

(3) Gwnaed gorchymyn mewn perthynas â P o dan adran 104 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(5).

(4) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn plentyn o fewn ystyr "offence against a child" yn adran 26(1) o Ddeddf 2000.

(5) Mae P–

(a) wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu

(b) yn dod o fewn paragraff 2 o'r Atodlen honno,

er gwaethaf y ffaith bod y tramgwyddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

(6) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (4) neu (5), a oedd yn ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.

(7) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir yn Atodlen 3 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath.

(8) Mae P wedi–

(a) ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn ac a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu

(b) wedi ei gyhuddo o unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath, ac y gosodwyd gorchymyn perthnasol mewn perthynas ag ef gan lys uwch.

(9) Ni fydd P wedi ei anghymhwyso dan baragraffau (1) i (8) mewn perthynas ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu gollfarn–

(a) os yw P wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn;

(b) os yw rhybudd mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw wedi ei dynnu'n ôl neu ei roi o'r neilltu;

(c) os yw cyfarwyddyd a seiliwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar y tramgwydd wedi ei ddirymu; neu

(ch) os gwnaed gorchymyn o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(6) yn rhyddhau P yn ddiamod neu'n amodol o'r tramgwydd hwnnw.

Tramgwyddau tramor

4.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd person ("P") wedi ei anghymhwyso os ceir bod P wedi cyflawni gweithred–

(a) a oedd yn dramgwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a

(b) a fyddai wedi bod yn dramgwydd a wnâi'n ofynnol anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn, pe bai'r weithred wedi ei chyflawni mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

(2) Ym mharagraff (1) ceir bod P "wedi cyflawni gweithred a oedd yn dramgwydd" os, o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig–

(a) collfarnwyd P am dramgwydd (pa un a gosbwyd P am y tramgwydd ai peidio);

(b) rhybuddiwyd P mewn perthynas â thramgwydd;

(c) gwnaeth llys, sy'n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd; neu

(ch) os gwnaeth llys o'r fath, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod bod P yn anabl ac wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni.

(3) Ni fydd person wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiad os, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad dan sylw, gwrthdrowyd y cyfryw ganfyddiad.

(4) Mae gweithred sy'n gosbadwy o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn gyfystyr â thramgwydd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn, sut bynnag y disgrifir y weithred yn y gyfraith honno.

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn Plant

5. Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Plant 1999(7) (rhestr o'r rhai a ystyrir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.

Cyfarwyddyd mewn perthynas â chyflogi athrawon etc

6.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person ("P") wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys i P.

(2) Mae P yn destun cyfarwyddyd.

(3) Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(8).

Personau a waharddwyd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant

7. Mae person a waharddwyd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i "regulated activity relating to children" yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(9) wedi ei anghymhwyso.

Personau sy'n byw neu'n gweithio mewn mangre lle mae person sydd wedi ei anghymhwyso yn byw

8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person sy'n byw–

(a) ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru; neu

(b) ar aelwyd lle y cyflogir unrhyw berson arall o'r fath,

wedi ei anghymhwyso.

Hepgoriadau

9.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pe bai person ("P") wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a 6(3) neu 8, ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai wedi peri, fel arall, iddo gael ei anghymhwyso, a Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad ysgrifenedig, a heb dynnu'r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna rhaid peidio ag ystyried bod y person hwnnw, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, wedi ei anghymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2) Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000.

(3) Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw'r person hwnnw, cyn 1 Ebrill 2002–

(a) wedi datgelu'r ffeithiau, i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf, a fyddai wedi anghymhwyso'r person o dan y Rheoliadau hyn; a

(b) wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Penderfyniad rhagnodedig

10. At ddibenion adran 79M(1)(c) o'r Ddeddf (apelau i'r Tribiwnlys), mae penderfyniad mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag cofrestru i warchod plant neu ddarparu gofal dydd o dan Atodlen 9A o'r Ddeddf yn benderfyniad rhagnodedig.

Dyletswydd i ddatgelu

11.–(1) Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf ("person cofrestredig") ddarparu'r wybodaeth ganlynol i Weinidogion Cymru–

(a) manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, collfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru, a wnaed neu sy'n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2), sy'n peri bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn;

(b) y dyddiad pan wnaed y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn, neu pan ddigwyddodd unrhyw sail arall dros anghymhwyso;

(c) y corff neu'r llys a wnaeth y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn a'r ddedfryd a osodwyd os gosodwyd un;

(ch) mewn perthynas â gorchymyn neu gollfarn, copi o'r gorchymyn perthnasol neu orchymyn llys, wedi ei ardystio gan y corff neu'r llys a'i dyroddodd.

(2) Y personau y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn perthynas â hwy yw–

(a) y person cofrestredig; a

(b) unrhyw berson sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person cofrestredig, neu a gyflogir ar yr aelwyd honno.

(3) Rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 diwrnod ar ôl yr adeg y daeth y person cofrestredig yn ymwybodol o'r wybodaeth honno, neu y dylai yn rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol ohoni pe bai'r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.

(4) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

(5) Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

12.–(1) Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(10) fel a ganlyn.

(2) Hepgorer rheoliadau 5 i 8.

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2010

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1 GORCHMYNION ETC MEWN PERTHYNAS Å GOFAL PLANT

1. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal).

2. Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio).

3. Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(11) (gorchymyn gofal).

4. Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(12) (gorchymyn person cymwys neu orchymyn gofal arbennig).

5. Gorchymyn a wneir yn dilyn cais fel a ganiateir o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2009(13) (gorchymyn rhianta cymunedol).

6. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001(14) (Deddf Tynwald).

7. Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(15).

8. Unrhyw orchymyn y byddid wedi ei ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o'r Ddeddf i rym(16).

9. Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol)(17).

10. Gorchymyn person cymwys, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(18).

11. Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(19).

12. Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(20).

13. Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

14. Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n gosod gofyniad goruchwylio mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan–

(a) adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(21); neu

(b) adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(22).

15. Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n breinio hawliau a phwerau P mewn perthynas â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban–

(a) o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(23); neu

(b) yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(24).

16. Mewn perthynas â chofrestru cartref i blant–

(a) gwrthod cais gan P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(25);

(b) diddymu cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(c) diddymu cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y bu P yn ymwneud â'i reoli neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo; neu

(ch) gwrthod cais gan P i gofrestru neu ddiddymu cofrestriad P o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(26).

17. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ddiddymu cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a fu'n cael ei redeg gan P, neu y bu P rywfodd arall yn ymwneud â'i reoli, neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl fel y digwydd-

(a) paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(27);

(b) paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c) adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(28);

(ch) erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(29) (gwasanaethau cartrefi gofal); neu

(dd) paragraff 2 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

18. Gwaharddiad a osodwyd ar unrhyw adeg o dan–

(a) adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(30) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(31);

(b) erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat);

(c) adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(32); neu

(ch) adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod cyfyngiadau ar faethu preifat).

19. Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (atal caniatâd i berson ymgymryd â gofalu am y plentyn a'i gynnal).

20. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cofrestriad mewn perthynas â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru felly, neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan–

(a) adran 1 neu adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(33);

(b) Rhan 10 neu Ran 10A o'r Ddeddf(34);

(c) Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(35);

(ch) Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d) adran 11(5) neu adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001;

(e) adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974 (Deddf Tynwald);

(f) adran 65 neu 66 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno; neu

(ff) Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972(36).

21. Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(37).

22. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru, neu ddiddymu cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl ac eraill)(38).

23. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan adran 12 neu 18 o'r Ddeddf honno.

24. Cynnwys enw P, ar unrhyw adeg, ar restr o bersonau anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003(39), neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod II o Ran II o'r Gorchymyn hwnnw.

Rheoliad 3(5)

ATODLEN 2 Tramgwyddau Statudol a Ddiddymwyd

1.–(1) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r adrannau canlynol o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956(40)–

(a) adran 1 (treisio)(41);

(b) adran 2 neu 3 (caffael benyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

(c) adran 4 (gweini cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

(ch) adran 5 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 13);

(d) adran 6 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 16)(42);

(dd) adran 14 neu 15 (ymosod yn anweddus);

(e) adran 16 (ymosod gyda bwriad o gyflawni sodomiaeth);

(f) adran 17 (cipio benyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo);

(ff) adran 19 neu 20 (cipio geneth o dan 18 neu 16);

(g) adran 24 (cadw benyw yn gaeth mewn puteindy neu fangre arall);

(ng) adran 25 neu 26 (caniatáu i eneth o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol)(43);

(h) adran 28 (peri neu annog puteinio geneth o dan 16 oed, neu gyfathrach rywiol gyda hi, neu ymosod yn anweddus arni).

(2) Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(44).

(3) Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (annog geneth o dan 16 i gyflawni llosgach)(45).

(4) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(46).

(5) Tramgwydd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat)(47).

(6) Tramgwydd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5, neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(48).

2. Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os ceir bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol, yn erbyn plentyn neu'n ymwneud â phlentyn–

(a) adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol);

(b) adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol);

(c) adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn);

(ch) adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw);

(d) adran 12 o'r Ddeddf honno (sodomiaeth)(49) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o sodomiaeth yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(dd) adran 13 o'r Ddeddf honno (anwedduster rhwng dynion)(50) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(e) adran 21 o'r Ddeddf honno (cipio person diffygiol oddi ar riant neu warcheidwad);

(f) adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio benywod);

(ff) adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael geneth o dan 21);

(g) adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol);

(ng) adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol);

(h) adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra);

(i) adran 31 o'r Ddeddf honno (benyw yn arfer rheolaeth ar butain);

(j) adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(51);

(l) adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrywiol)(52);

(ll) adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw);

(m) adran 9(1)(a) o Ddeddf Lladrata 1968 (bwrgleriaeth); neu

(n) tramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd a bennir yn is-baragraffau (a) i (m).

Rheoliad 3(7)

ATODLEN 3 TRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr

1.–(1) Tramgwydd o dan adran 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal).

(2) Tramgwydd o dan adran 79C, 79D, 79E neu 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant neu ofal dydd).

(3) Tramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 2003–

(a) adran 62 neu 63 (cyflawni tramgwydd neu dresmasu gyda bwriad o gyflawni tramgwydd rhywiol);

(b) adran 64 neu 65 (rhyw gyda pherthynas sy'n oedolyn);

(c) adran 69 (cyfathrach rywiol ag anifail); neu

(ch) adran 70 (treiddio'n rhywiol i gorff marw).

(4) Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000–

(a) adran 11(1) (methu â chofrestru);

(b) adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);

(c) adran 25 (mynd yn groes i reoliadau);

(ch) adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu

(d) adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).

Tramgwyddau yn yr Alban

2.–(1) Tramgwydd o dreisio.

(2) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(53).

(3) Y tramgwydd cyfraith gyffredin plagiwm (lladrata plentyn sydd o dan oed aeddfedrwydd).

(4) Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)(54).

(5) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(55).

(6) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol–

(a) adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau llochesu)(56);

(b) adran 6 o Ddeddf Cipio Plant 1984 (cymryd neu anfon plentyn allan o'r Deyrnas Unedig)(57); neu

(c) adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat).

(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â sefydliadau preswyl ac eraill)(58).

(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(59)–

(a) adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);

(b) adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu

(c) adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

3.–(1) Tramgwydd o dreisio.

(2) Tramgwydd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003.

(3) Tramgwydd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(60).

(4) Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.

(5) Tramgwydd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)(61).

(6) Tramgwydd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (annog geneth o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(62).

(7) Tramgwydd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)(63).

(8) Tramgwydd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).

(9) Tramgwydd o dan Ran 3 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (tramgwyddau rhywiol yn erbyn plant).

(10) Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol–

(a) erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal);

(b) erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd)(64);

(c) erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat); neu

(ch) erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

Tramgwyddau yn Jersey

4. Tramgwydd yn groes i–

(a) Rhan 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969(65);

(b) Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(66); neu

(c) Cyfraith Gofal Dydd i Blant (Jersey) 2002(67).

Tramgwyddau yn Guernsey

5. Tramgwydd yn groes i–

(a) y "Loi pour la Punition d'Inceste" (Cyfraith ar gyfer Cosbi Llosgach) 1909(68);

(b) y "Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures" (Cyfraith ar gyfer Amddiffyn Benywod a Genethod Ifanc) 1914(69);

(c) y "Loi relative à la Sodomie" (Cyfraith mewn perthynas â Sodomiaeth) 1929(70);

(ch) erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, adran 1 o erthygl 41 neu adran 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o'r "Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes" (Cyfraith mewn perthynas ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(71);

(d) Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;

(dd) Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(72).

Tramgwyddau yn Ynys Manaw

6. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

Tramgwyddau eraill

7.–(1) Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(73) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(74) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

(2) Tramgwydd yn rhinwedd–

(a) adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu

(b) adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(75).

(3) Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr)(76).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r categorïau o bersonau a anghymhwysir rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989 (p.41) ("y Ddeddf"). Ni chaiff personau a anghymhwysir o dan y Rheoliadau hyn ddarparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth o ofal dydd, na chael unrhyw fuddiant ariannol mewn darpariaeth o'r fath. Ni cheir ychwaith eu cyflogi mewn cysylltiad â darparu gofal dydd.

Mae rheoliad 3, ynghyd ag Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn, yn pennu'r gorchmynion a'r penderfyniadau ynglŷn â gofalu am blant a'u goruchwylio, yr anghymhwysir person rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy. Mae rheoliad 3 ynghyd ag Atodlenni 2 a 3 yn pennu hefyd y categorïau o dramgwyddau yn erbyn plant neu oedolion, neu sy'n ymwneud â phlant neu oedolion, yr anghymhwysir person rhag cofrestru mewn perthynas â hwy.

Mae anghymhwyso rhag cofrestru yn gymwys o ran tramgwyddau a gyflawnir dramor, sy'n gymaradwy i'r tramgwyddau a bennir yn y Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 4).

O dan y Rheoliadau hyn, mae personau a gynhwysir ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), personau y gwnaed cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) (a adwaenir fel Rhestr 99) a phersonau a waherddir o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant, o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru (gweler rheoliadau 5, 6(1) a (2) a 7).

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer hepgor anghymhwyso mewn amgylchiadau penodol, ac felly, os yw Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi cydsynio, ni cheir ystyried bod y person wedi ei anghymhwyso. Nid oes pŵer gan Weinidogion Cymru i hepgor anghymhwyso pan fo'r anghymhwysiad yn tarddu o gynnwys y person ar Restr 99 neu'r rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, neu o'i wahardd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu pan fo llys wedi gorchymyn na chaiff y person weithio mewn cysylltiad â phlant yn dilyn ei gollfarnu am dramgwyddau penodol yn erbyn plant (gweler rheoliadau 9(1) a 9(2)).

Yn rhinwedd rheoliad 10, mae hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chydsynio i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod dyletswydd ar berson a gofrestrwyd o dan Ran 10A o'r Ddeddf i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, collfarn neu sail arall ar gyfer anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r rhwymedigaeth honno'n gymwys i wybodaeth am y person cofrestredig ac am unrhyw berson sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person cofrestredig, neu a gyflogir ar yr aelwyd honno.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004, a fydd bellach yn gymwys yn unig o ran anghymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat.

(1)

1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o'r Ddeddf a pharagraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]

(2)

2002 p.32. Back [2]

(3)

2000 p.43. Back [3]

(4)

Mae paragraff 4(6) o Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989 (fel y'i diwygiwyd gan adran 102(3) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (2006 p.21)) yn darparu bod "caution" yn cynnwys "reprimand" neu "warning" o fewn ystyr adran 65 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Back [4]

(5)

2003 p.42. Back [5]

(6)

2000 p.6. Back [6]

(7)

1999 p.14. Back [7]

(8)

O.S. 1986/594 (G.I.3). Amnewidiwyd erthygl 70(2)(e) gan erthygl 8 o Orchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1987 (O.S. 1987/167) (G.I.2). Diwygiwyd Gorchymyn 1986 gan erthygl 15 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 (O.S. 2003/417) (G.I.4). Back [8]

(9)

2006 p.47. Back [9]

(10)

O.S. 2004/2695 (Cy.235). Back [10]

(11)

O.S. 1995/755 (G.I.2). Back [11]

(12)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI t.34. Diwygiwyd adran 3 gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 1971, Cyfrol XXIII t.3 a chan Gyfraith Llys Ieuenctid (Guernsey) 1989, Cyfrol XXXI t.326. Back [12]

(13)

Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIV 2009. Back [13]

(14)

2001 p.20 (Ynys Manaw). Back [14]

(15)

Cyfraith Jersey 50/2002. Back [15]

(16)

Daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym ar 14 Hydref 1991. Back [16]

(17)

1969 p.54. Mewnosodwyd adran 12AA gan Ddeddf 1989 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000. Back [17]

(18)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau mewn perthynas â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998 (O.S.1998/1504) (G.I.9). Back [18]

(19)

1995 p.36. Back [19]

(20)

Diddymwyd adran 76 (yn rhannol) gan O.S.A. 2003/583. Back [20]

(21)

1968 p.49. Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995. Back [21]

(22)

Diwygiwyd adran 70 gan adrannau 135 ac 136 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol etc. (Yr Alban) 2004 (dsa 8). Back [22]

(23)

Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995. Back [23]

(24)

Diwygiwyd adran 86 gan baragraffau 83 ac 84 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Back [24]

(25)

2000 p.14. Back [25]

(26)

O.S. 2003/431 (G.I.9). Back [26]

(27)

Diddymwyd y ddarpariaeth hon a'r rheini a grybwyllir ym mharagraff (b) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen gan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Back [27]

(28)

Diddymwyd yr adran hon gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995. Back [28]

(29)

2001 dsa 8. Back [29]

(30)

1980 p.6. Diddymwyd Deddf Plant Maeth 1980 gan Ddeddf 1989. Back [30]

(31)

1958 p.65. Diddymwyd adran 4 gan Ddeddf Plant Maeth 1980. Back [31]

(32)

1984 p.56. Back [32]

(33)

1948 p.53. Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf 1989. Back [33]

(34)

Peidiodd Rhan 10 o Ddeddf Plant 1989 â bod yn gymwys i Loegr yn 2001. Mewnosodwyd Rhan 10A gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pheidiodd â bod yn gymwys i Loegr ar 1 Medi 2008. Diddymwyd Rhan 10 o ran yr Alban gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen. Back [34]

(35)

2006 p.21. Back [35]

(36)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIII t.238 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 2000, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif III 2001. Back [36]

(37)

2003 dsa 5. Back [37]

(38)

Diddymwyd adran 62 gan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001. Back [38]

(39)

O.S. 2003/417 (G.I.4). Back [39]

(40)

1956 p. 69. Back [40]

(41)

Amnewidiwyd adran 1 gan adran 142 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) ("Deddf 1994") ac fe'i diddymwyd gan baragraff 11 o Atodlen 6 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (p.42) ("Deddf 2003"). Diddymwyd yn ogystal adrannau 2 i 6, 14 i 17, 19, 20, 24 i 26 a 28 gan y ddarpariaeth hon o Ddeddf 2003. Back [41]

(42)

Diddymwyd adran 6 yn rhannol gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 (p.58) ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003. Back [42]

(43)

Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan adran 10 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003. Back [43]

(44)

1960 p.33. Diwygiwyd adran 1 gan adran 39 o Ddeddf 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003. Back [44]

(45)

1977 p.45. Diddymwyd adran 54 gan Ddeddf 2003. Back [45]

(46)

2000 p. 44. Mae adran 3 yn ymestyn i'r Alban a Gogledd Iwerddon (gweler adran 7(2) a (4)) ond fe'i diddymwyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Ddeddf 2003. Back [46]

(47)

Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980. Back [47]

(48)

Diddymwyd pob un o'r darpariaethau hyn gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Back [48]

(49)

Diwygiwyd adran 12 gan adran 143 o Ddeddf 1994 ac adrannau 1 a 2 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (p.44) ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003. Back [49]

(50)

Diwygiwyd adran 13 gan adran 2 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003. Back [50]

(51)

1959 p.72; diwygiwyd adran 128 gan adran 1(4) o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (p.60) a chan ddarpariaethau eraill, gan gynnwys paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003. Back [51]

(52)

1967 p.60; diddymwyd adrannau 4 a 5 gan Ddeddf 2003. Back [52]

(53)

1995 p.46. Back [53]

(54)

1982 p.45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 84 o Ddeddf 1994, Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p.40) ac adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) ac fe'i diwygiwyd gan adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Tramgwyddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9). Back [54]

(55)

2000 p. 44; diwygiwyd adran 3 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 62 o Ran 4 o Atodlen 28 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33). Back [55]

(56)

Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995. Back [56]

(57)

1984 p.37; diwygiwyd adran 6 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 34(c) o Atodlen 4 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995. Back [57]

(58)

Diddymwyd adrannau 60 i 68 gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen (O.S.A. 2002/162). Back [58]

(59)

2001 dsa 8. Back [59]

(60)

O.S. 2008/1769 (G.I.2). Back [60]

(61)

O.S. 1978/1047 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf 1994, adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 2003 (O.S. 2003/1247) (G.I.13). Back [61]

(62)

O.S.1980/704 (G.I.6). Back [62]

(63)

O.S.1988/1847 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) ac 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000. Back [63]

(64)

Diddymwyd yr adran hon a'r adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (10)(c) ac (ch), gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995. Back [64]

(65)

Cyfraith Jersey 16/1969. Back [65]

(66)

Cyfraith Jersey 50/2002. Back [66]

(67)

Cyfraith Jersey 51/2002. Back [67]

(68)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol IV t.288. Back [68]

(69)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t.74. Back [69]

(70)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII t. 273. Back [70]

(71)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t. 342 fel y'i diwygiwyd gan y Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XI t.116 a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI t.277. Back [71]

(72)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX t.103 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII t.49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003 a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey) 2006, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006. Back [72]

(73)

1979 p.2. Back [73]

(74)

1876 p.36. Back [74]

(75)

1995 p.39. Back [75]

(76)

1969 p.54. Back [76]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101703_we_1.html