BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 No. 1808 (Cy. 176) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101808_we_1.html |
[New search] [Help]
Gwnaed
13 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
9 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(1).
Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhai yr effeithir arnynt.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 9 Awst 2010.
2.–(1) Mae Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3–
(a) yn lle'r diffiniad o "oats" rhodder–
""oats" means plants of the species Avena nuda L. and Avena sativa L" ;
(b) yn lle'r diffiniad o "triticale" rhodder–
""triticale" means plants of the species xTriticosecale Wittm. Ex A. Camus (which are hybrids resulting from the crossing of a species of the genus Triticum and a species of the genus Secale)";
(c) yn lle'r diffiniad o "wheat" rhodder–
""wheat" means plants of the species Triticum aestivum L."; ac
(ch) yn lle'r diffiniad o "wild oats" rhodder–
""wild oats" means plants of the species Avena fatua and Avena sterilis".
(3) Yn Atodlen 4–
(a) ym mharagraff 12(2) yn lle "Agropyron repens" rhodder "Elytrigia repens";
(b) ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar gyfer "(i) barley" rhodder "(i) barley (other than CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type)"; ac
(c) ym mharagraff 13(1) yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod "(b) CS, C1 and C2 seed of oats officially classified as being of a naked oak type" mewnosoder y rhes ganlynol–
(ba) CS, C1 and C2 seed of barley officially classified as being of a naked barley type |
75 |
.
(4) Yn Atodlen 8 ym mharagraffau 1(e), 9(l) a 14(b)(ix) ar ôl "oats" mewnosoder "or barley" ac ar ôl "naked oat" mewnosoder "or a naked barley".
3.–(1) Mae Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3–
(a) yn lle'r diffiniad o "festulolium", rhodder–
""festulolium" means plants of the species xFestulolium Asch. & Graebn. which are hybrids resulting from the crossing of a species of the genus Festuca with a species of the genus Lolium";
(b) yn y diffiniad o "fine grasses" ar ôl "Schedule 2" mewnosoder "and plants of the species Poaceae (Graminae)";
(c) ar ôl y diffiniad o "fine grasses" mewnosoder y diffiniad canlynol–
""fine leaved sheep´s fescue" means plants of the species Festuca filiformis Pourr.";
(ch) ar ôl y diffiniad o "fodder radish" mewnosoder y diffiniad a ganlyn–
""hard fescue" means plants of the species Festuca trachyphylla (Hack.) Krajina";
(d) yn y diffiniad o "large seeded legumes" ar ôl "Schedule 2" mewnosoder "and plants of the species Fabaceae (Leguminosae)";
(dd) yn y diffiniad o "meadow fescue" yn lle "Hudson" rhodder "Huds";
(e) yn y diffiniad o "small Timothy" yn lle "bertolonii DC" rhodder "nodosum L"; ac
(f) yn y diffiniad o "tall oatgrass" yn lle "J. and C. Presl" rhodder "P. Beauv. Ex J. Presl & C. Presl".
(3) Ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar ôl "(b) cocksfoot" mewnosoder "(ba) fine leaved sheep´s fescue" a "(bb) hard fescue".
(4) Yn Atodlen 4–
(a) ym mharagraff 4 yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ("2. Fodder grasses") "b. cocksfoot" mewnosoder y rhesi a ganlyn–
(ba) Fine leaved sheep´s fescue |
85 | Not applicable |
(bb) Hard fescue |
85 | Not applicable |
;
(b) ym mharagraff 5(2) ar ôl y cofnod "festulolium" mewnosoder y cofnodion "(ba) fine leaved sheep´s fescue" a "(bb) hard fescue";
(c) ym mharagraff 7 yn lle "Agropyron repens" rhodder "Elytrigia repens";
(ch) ym mharagraff 9(1) hepgorer "; Avena ludoviciana"; a
(d) yn lle paragraff 12(2) rhodder y diffiniad canlynol–
"12–(2) In the case of C1 seed of lupins, the percentage by number of seeds of another colour must not exceed 4.0 % for bitter lupins and 2.0 % for other lupins".
(dd) ym mharagraff 14 yn y tabl ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ("2. Fodder grasses") "b. cocksfoot" mewnosoder y rhesi a ganlyn–
(ba) Fine leaved sheep´s fescue |
75 | Not applicable |
(bb) Hard fescue |
75 | Not applicable |
.
(5) Yn Atodlen 7 yn y tabl–
(a) ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ("2. Fodder grasses") "b. cocksfoot" mewnosoder y rhesi a ganlyn–
(ba) Fine leaved sheep´s fescue |
10 | 100 | 30 |
(bb) Hardfescue |
10 | 100 | 30 |
; a
(b) yn lle rhesi 4 (Codlysiau â hadau mawr) (a), (b), (c), (d), (e), (f), (g) ac (h), rhodder "30" yn lle pob cofnod rhifol yn yr ail golofn.
(6) Yn Atodlen 10 yn y tabl mewnosoder y rhesi a ganlyn yn y mannau priodol–
Fine leaved sheep´s fescue | Regulation 3 |
Hard fescue | Regulation 3 |
4.–(1) Mae Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3–
(a) yn y diffiniad o "black mustard" yn lle "Koch" rhodder "W.D.J. Koch"; a
(b) yn y diffiniad o "brown mustard" yn lle "Czernj." rhodder "Czern.".
(3) Yn Atodlen 7 yn y cofnod ar y tabl lle y mae "soya bean" yn ymddangos yn y golofn gyntaf, yn ail golofn y cofnod hwnnw rhodder "30" yn lle "25".
5.–(1) Mae Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) o Atodlen 4 ar ôl y rhes â'r llythrennau "cc" mewnosoder y rhes ganlynol–
(dd) sweet corn of the supersweet type |
80 |
(3) Yn Atodlen 7 yn y rhesi lle y mae "2(b) French bean", "2(c) runner bean" a "23 (pea)" yn ymddangos yn y golofn gyntaf, rhodder "30" yn lle pob cofnod rhifol yn yr ail golofn.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC ddyddiedig 26 Mehefin 2009 ("Cyfarwyddeb 2009") o ran Cymru. Mae Cyfarwyddeb 2009 yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/55/EC a 2002/57/EC parthed enwau botanegol planhigion, enwau gwyddonol organeddau eraill ac Atodiadau penodol i Gyfarwyddebau 66/401/EEC, 66/402/EEC, a 2002/57/EC yng ngoleuni datblygiadau ym maes gwybodaeth wyddonol a thechnegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005, O.S. 2005/3036 (Cy.224) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i leihau'r safon egino sy'n ofynnol ar gyfer haidd moel.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005, O.S. 2005/1207 (Cy.79) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i wneud newidiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol i'r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004, O.S. 2004/2881 (Cy.251) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol o fwstard, a thrwy gynyddu uchafswm pwysau lot hadau ar gyfer ffa soia i 30 tunnell.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005, O.S. 2005/3035 (Cy.223) i adlewyrchu newidiadau yn null enwi rhywogaethau penodol, ac i leihau'r safon egino sy'n ofynnol ar gyfer india-corn tra melys.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei wneud ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi (p.68), O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986. Gweler adran 31(1) am ddiffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 2, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn trosglwyddo 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 oAtodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 2005/3036 (Cy.224), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131). Back [2]
O.S. 2005/1207 (Cy.79), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131). Back [3]
O.S. 2004/2881 (Cy.251), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/1356 (Cy.131). Back [4]
O.S. 2005/3035 (Cy.223), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/2747 (Cy.230). Back [5]