BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010 No. 1822 (Cy. 179)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101822_we_1.html

[New search] [Help]


 

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

14 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Gorffennaf 2010

Y n dod i rym

9 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Awst 2010.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

2.–(1) Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(3) ("y prif Reoliadau") yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn lle paragraff 4(3) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau, rhodder–

"4–(3) Ystyr "labordy profi cymeradwy" yw–

(a) labordy a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn;

(b) labordy a gymeradwywyd o dan ddeddfwriaeth gyfatebol mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig;

(c) un o Labordai Cyfeirio Cenedlaethol yr UE; neu

(ch) labordy diagnostig a gymeradwywyd gan Aelod-wladwriaeth yn unol ag Atodiad X i Rheoliad TSE y Gymuned.".

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008, O.S. 2008/3154 (Cy.282) ("y prif Reoliadau") sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau i atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.

O dan y prif Reoliadau, mae'n ofynnol i weithredwyr lladd-dai gyflwyno samplau gwartheg i labordy a gymeradwywyd i'w profi ar gyfer TSE. Mae'r Rheoliadau hyn yn helaethu'r diffiniad o "labordy a gymeradwywyd" yn y prif Reoliadau. Bydd y diwygiad yn galluogi gweithredwyr lladd-dai (petaent yn dewis gwneud hynny) i anfon samplau o goesyn ymennydd gwartheg i un o Labordai Cyfeirio Cenedlaethol yr Undeb Ewropeaidd i'w brofi ar gyfer TSE neu i labordai a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys mewn Aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol gan mai ychydig iawn o effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes.

(1)

O.S. 2008/1792. Back [1]

(2)

1972 p. 68. Back [2]

(3)

O.S. 2008/3154 (Cy.282). Back [3]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2010/wsi_20101822_we_1.html