Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013 No. 2090 (Cy. 205)

BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013 No. 2090 (Cy. 205)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2013/wsi_20132090_en_1.html

[New search] [Printable PDF version] [Help]


Welsh Statutory Instruments

2013 Rhif 2090 (Cy. 205) (C. 87)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013

Gwnaed

22 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn

2.  Daw adrannau 22 i 25 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 19 Medi 2013.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

22 Awst 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2011 ("Mesur 2011"). Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Medi 2013 Bennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011. Mae Pennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant i lywodraethwyr a chlercod a darparu clerc i gorff llywodraethu ysgol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 916 Tachwedd 20122012/2656 (Cy.288) (C.106)
(1)

2011 mccc 7.


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2013/wsi_20132090_en_1.html