Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 No. 509 (Cy. 105)

BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>  <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML+RDFa 1.0//EN" "http://www.w3.org/MarkUp/DTD/xhtml-rdfa-1.dtd"> <html xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml" lang="en" xml:lang="en"> <head><meta http-equiv="Content-Type" content="text/html; charset=utf-8" /> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 No. 509 (Cy. 105)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2017/wsi_2017509_en_1.html

[New search] [Printable PDF version] [Help]


Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 509 (Cy. 105)

Diogelu'r Amgylchedd, Cymru

Llygredd Morol, Cymru

Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

29 Mawrth 2017

Yn dod i rym

1 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 108 o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.-(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer(2).

Diwygio

3.  Mae rheoliad 3 (apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol) o Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn-

(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder-

"(1A) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan-

(a)adran 72A(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd pellach a godir os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod codi taliadau priodol); neu

(b)adran 107A(4) o Ddeddf 2009 (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru);

apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.";

(b)ym mharagraff (2) ar ôl "mharagraff (1)" mewnosoder "neu baragraff (1A)";

(c)ym mharagraff (3) ar ôl "mharagraff (1)" mewnosoder "neu baragraff (1A)".

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/923 (Cy. 132)) ("y Prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau penodol a ddyroddir o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 ("Deddf 2009").

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau sy'n amrywio, yn atal dros dro neu'n dirymu trwydded forol a ddyroddir o dan adrannau 72A(7) a 107A(4) o Ddeddf 2009.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) o'r Ddeddf honno i gael diffiniad o "Welsh inshore region".


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2017/wsi_2017509_en_1.html