Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 Rhif 1361 (Cy. 357)


BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 Rhif 1361 (Cy. 357)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2021/wsi_20211361_en_1.html

[New search] [Help]


Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Welsh Statutory Instruments

2021 Rhif 1361 (Cy. 357)

Llywodraeth Leol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021

Gwnaed

am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 84(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021( 1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rym

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

2.  Yn adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010( 2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1); .

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 10.00 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymreig wneud a dangos eu cyfraniad tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“ Deddf 2021”) at y rhestr o awdurdodau Cymreig sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru ac y mae’n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan y Mesur gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

( 1)

2021 dsc 1.

( 2)

2010 mccc 1.


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2021/wsi_20211361_en_1.html