BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021 Rhif 1457 (Cy. 373) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2021/wsi_20211457_en_1.html |
[New search] [Help]
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Welsh Statutory Instruments
Addysg, Cymru A Lloegr
Gwnaed
16 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
17 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
18 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 97(1) a (2) a chan adran 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018( 1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 3) 2021 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2022.
2.—(1) Mae rheoliad 5B o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002( 2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (9)(b)(ii), yn lle “approved by the Welsh Ministers under section 347 of that Act” rhodder “specially organised to make additional learning provision for pupils with additional learning needs (within the meaning of section 579 of that Act)”.
(3) Ym mharagraff (9)(b)(iii), yn lle’r geiriau o “with the consent of” hyd at ddiwedd paragraff (iii) rhodder “during any period before 1 September 2021 when the adult was attending it, either was approved by the Welsh Ministers under section 347 of that Act or, with the consent of the Welsh Ministers under section 347(5)(b) of that Act, provided places for children with special educational needs (within the meaning of section 579 of that Act as it applied immediately before that date)”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007( 3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“mae i “ anghenion dysgu ychwanegol ” (“ additional learning needs ”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf 2018; ”;
“ystyr “ Deddf 2018 ” (“ the 2018 Act ”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018; ”.
(3) Yn Atodlen 2, ar ddechrau paragraff 9 mewnosoder “Ar gyfer disgybl y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(4) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—
“9A. Ar gyfer disgybl y mae Rhan 2 o Ddeddf 2018 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a oes gan y disgybl anghenion dysgu ychwanegol ac, os felly, cadarnhad ynghylch—
(a) holl anghenion dysgu ychwanegol y disgybl a nodwyd;
(b) a oes gan y disgybl gynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 ac, os felly, a yw corff llywodraethu’r ysgol neu’r awdurdod lleol yn ei gynnal; ac
(c) y cymorth a ddarperir. ”
4.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009( 4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“mae i “ anghenion dysgu ychwanegol ” (“ additional learning needs ”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf 2018; ”;
“ystyr “ Deddf 2018 ” (“ the 2018 Act ”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018; ”.
(3) Yn Atodlen 1, ar ddechrau paragraff 4 mewnosoder “Ar gyfer plentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(4) Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 mewnosoder—
“4A. Ar gyfer plentyn y mae Rhan 2 o Ddeddf 2018 yn gymwys mewn perthynas ag ef, a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol ac, os felly, cadarnhad ynghylch—
(a) anghenion dysgu ychwanegol y plentyn a nodwyd; a
(b) a oes gan y plentyn gynllun datblygu unigol a gynhelir o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 ac, os felly, a yw corff llywodraethu ysgol neu awdurdod lleol yn ei gynnal. ”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“ y Ddeddf”). Mae’r Ddeddf honno yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth ynglŷn â thystysgrifau cofnod troseddol manwl ac i is-ddeddfwriaeth ynglŷn â darparu gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2002/233. Mewnosodwyd rheoliad 5B gan O.S. 2013/1194, rheoliad 2(1) a (5) a’r Atodlen. Mae diwygiadau i reoliad 5B nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd paragraff 9(a) o Atodlen 2 gan O.S. 2016/837 (Cy. 211), rheoliad 2(c).
O.S. 2009/3355 (Cy. 294), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.