BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000718w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 718 (Cy.25)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diddymu
    
2. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, diddymir drwy hyn Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) 1992[3], Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1993[4], Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio)1995[5], a Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1998[6].

Cyrff Penodedig
     3. Mae'r cyrff canlynol yn rhai penodedig at ddibenion adran 76(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, sef:-

    (a) Bwrdd Arholi'r Gwasanaethau Tân;

    (b) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus Oedolion;

    (c) Biwro Cydwladol Llywodraeth Leol;

    (d) Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach;

    (e) Public Private Partnerships Programme Limited;

    (f) Syniad;

    (g) yr Asiantaeth dros Welliant a Datblygiad Llywodraeth Leol;

    (h) Corff Cyflogwyr Llywodraeth Leol; ac

    (i) Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Chwfror 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cyrff i'r diben hwn. Diddymir a disodlir y Rheoliadau blaenorol gan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny. Daw Syniad (yr Asiantaeth dros Welliant, Datblygiad a Chyflogwyr yng Nghymru) yn gorff penodedig i ddibenion adran 78.


Notes:

[1] 1988 p.41. Diwygiwyd adran 76 gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.19). Atodlen 10, paragraff 8.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/89back

[4] O.S. 1993/139back

[5] O.S. 1995/3184back

[6] O.S. 1998/2995back

[7] 1998 p.38back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000718w.html