BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022304w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2304 (Cy.229)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002

  Wedi'i wneud am 11:29 a.m. ar 5 Medi 2002 
  Yn dod i rym 6 Medi 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, sy'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adrannau 1, 7, 8(1), 83(2) ac 87(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru, daw i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel y "safle tarddiad") oni bai fod y gofynion canlynol yn cael eu bodloni - 

    (2) Ni fydd y gofyniad a gynhwysir ym mharagraff (1)(b) o'r erthygl hon yn gymwys - 

    (3) At ddibenion paragraff (1)(b) uchod rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i symudiad y canlynol i'r safle tarddiad neu safle arall yn yr un grwp meddiannaeth - 

    (4) Ni fydd y gofyniad a nodir ym mharagraff (1) uchod yn gymwys yn achos unrhyw symudiad a awdurdodwyd o dan drwydded a ddyroddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

    (5) Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1)(a) uchod yn gymwys mewn unrhyw achos y mae trwydded wedi'i dyroddi neu wedi'i rhoi mewn perthynas ag ef ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 i awdurdodi symud anifail i unrhyw safle neu ohoNo.

    (6) Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1) yn gymwys i symudiad unrhyw anifail i unrhyw swcirc au 1981[12] nac ohoNo.

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ac eithrio yn yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2(b)(xvii) ac is-baragraffau (3)(e), (j) ac (ll), os yw'n ofynnol i unrhyw anifail, heblaw mochyn, gael ei ynysu at unrhyw ddiben o dan yr erthygl hon, mae hyn yn golygu wedi'i ynysu mewn cyfleusterau ynysu sydd wedi'u cymeradwyo drwy hysbysiad gan arolygydd milfeddygol.

    (8) Ni chaniateir defnyddio unrhyw gyfleusterau ynysu a ddefnyddiwyd at ddibenion is-baragraffau (3)(e) ac (f) yr un pryd er mwyn ynysu anifeiliaid at unrhyw ddiben arall o dan y Gorchymyn hwn.

    (9) At ddibenion paragraffau (9) a (10) ac is-bargraffau (3)(e) ac (f), mae cyfleuster ynysu yn bodloni gofynion y paragraff hwn i fod yn "gyfleuster ynysu ar gyfer bridio" ar yr amod - 

    (10) Os yw arolygydd milfeddygol o'r farn nad yw cyfleuster sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn bodloni gofynion Rhan I o'r Atodlen, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ac i berchenogion neu geidwaid yr holl anifeiliaid ar y safle hwnnw a hwnnw'n hysbysiad sy'n pennu ym mha ffyrdd nad yw'r gofynion hynny yn cael eu bodloni a'r camau, os oes rhai, y dylid eu cymryd er mwyn eu bodloni.

    (11) Caiff hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (10) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu swyddog arall i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad cyntaf iddynt.

    (12) Pan fydd trwydded wedi ei dyroddi neu ei rhoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, arolygydd neu Weinidogion yr Alban o dan orchymyn a wnaed o dan adran 8 o'r Ddeddf i awdurdodi symud unrhyw anifail o safle sydd wedi'i leoli yn Lloegr neu yn yr Alban i safle sydd wedi'i leoli yng Nghymru neu i safle sydd wedi'i leoli yn yr Alban neu Loegr drwy unrhyw ran o Gymru, bydd unrhyw ddarpariaethau yn y drwydded honno sy'n berthnasol yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r symudiad sy'n digwydd yng Nghymru fel petai'r drwydded honno yn drwydded a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unol â hynny.

    (13) Pan fydd trwydded o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (12) uchod yn awdurdodi symudiadau o unrhyw fath rhwng safleoedd o dan yr un rheolaeth, yna, heb ragfarnu darpariaethau'r paragraff hwnnw, bydd yn effeithiol fel petai hefyd yn awdurdod a ddyroddwyd er mwyn gwneud y safle yn grwcirc p meddiannaeth unigol o dan y Gorchymyn hwn a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys felly mewn perthynas â hi.

Cyfyngiadau ar symudiadau i ladd-dai
     4. Ni chaiff neb - 

Hela
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb gymryd rhan mewn hela.

    (2) Ni fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn anghyfreithlon - 

    (3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn hela o dan awdurdod caniatâd a ddyroddir ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan erthygl 36(2)(d) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 ac yn unol ag amodau'r caniatâd hwnnw ond os bydd caniatâd o'r fath yn peidio â bod yn ddilys am fod gorchymyn ardal a reolir wedi'i ddirymu, bydd ei effaith yn parhau yn lle hynny fel petai'n ganiatâd a ddyroddwyd o dan baragraff (2)(b).

    (4) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi caniatâd o dan baragraff (2)(b) rhaid i arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a allai fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â dyroddi caniatadau o'r fath.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw caniatâd wedi'i ddyroddi o dan baragraff (2)(b) fel caniatâd cyffredinol caiff arolygydd milfeddygol wahardd drwy hysbysiad unrhyw berson rhag cymryd rhan mewn hela neu rhag trefnu hela o dan awdurdod y caniatâd hwnnw.

    (6) Dim ond os yw o'r farn - 

Trwyddedau, awdurdodau, caniatadau a hysbysiadau
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i unrhyw drwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, cânt fod yn gyffredinol neu'n benodol, rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt a chaniateir eu hamrywio, eu hatal dros dro neu eu dirymu ar unrhyw adeg drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir - 

    (2) Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1) uchod - 

    (3) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), hysbysiad o dan erthygl 3(2)(b)(xi), 3(7) neu 3(10) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2)(c) neu 5(2)(b), rhaid i arolygydd, neu yn ôl fel y digwydd, arolygydd milfeddygol, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a all fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw drwyddedau, hysbysiadau neu ganiatadau o'r fath.

    (4) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), awdurdod a ddyroddir er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn grwcircp meddiannaeth unigol o dan erthygl 3(2)(b)(vi), neu ganiatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2)(c) bennu gofynion ar gyfer glanhau a diheintio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer symud anifeiliaid yn ychwanegol at y gofynion mewn perthynas â hynny a nodir yng Ngorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001[
13] a rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud yr anifeiliaid sicrhau, ac eithrio lle bo'r drwydded, yr awdurdod neu'r caniatâd yn darparu fel arall, fod pob gofyniad o'r fath yn cael ei fodloni cyn gynted â phosibl ar ôl i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho a, beth bynnag, cyn bod y cerbyd yn cael ei symud o'r safle y mae'r anifeiliad wedi'u symud iddo.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd - 

    (6) Ni chaniateir dyroddi unrhyw hysbysiad o dan bargraffau (5) ac eithrio yn unol â chyngor arolygydd sydd o'r farn - 

    (7) Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (5)(a) i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad a rhaid cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (5)(b) i'r person sy'n cael ei wahardd rhag symud anifeiliaid odano ac i feddianwyr unrhyw safle sydd wedi'i enwi'n unigol ar yr hysbysiad.

    (8) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys yn achos hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).

Newid meddiannaeth safle y mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn effeithio arno
     7.  - (1) Ar derfyniad ei hawl feddiannu ar unrhyw safle, os nad yw perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn gallu ei symud oddi yno oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan neu o dan ddarpariaethau blaenorol y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sydd â hawl feddiannu ar y safle hwnnw wneud y canlynol pan derfynir yr hawl honno - 

    (2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn parhau i fod yn gymwys tan y bydd y cyfnod o 7 diwrnod o'r dyddiad y mae unrhyw gyfyngiad ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys yn dod i ben a bydd perchennog yr anifail yn agored i dalu i'r person sy'n rhoi unrhyw gyfleusterau neu sy'n bwydo'r anifail hwnnw, yn gofalu amdano neu fel arall yn ei gadw, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau o ran tâl ac ad-daliad am dreuliau sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Darpariaethau cyffredinol ynghylch trwyddedau
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn - 

    (2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae trwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef, os mynnir iddo wneud hynny gan gwnstabl neu arolygydd neu swyddog arall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddarn ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a darpariaethau unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, sef darpariaethau sy'n gosod gofyniad croes ar y person sy'n symud yr anifeiliaid, rhaid i feddiannydd y safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo o dan y drwydded honno - 

    (4) Ni fydd darpariaethau paragraffau (1)(b) ac (c), (2) (i'r graddau y mae'n ymwneud â dangos a chopïo trwydded) a (3)(a) i (c) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol.

    (5) Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Pwerau swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac arolygwyr awdurdodau lleol os bydd methiant
    
9.  - (1) Os bydd unrhyw berson y mae trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn yn methu â chydymffurfio â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad, caiff swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad ac os methir â chydymffurfio â'r gofynion hynny bydd y swyddog neu'r arolygydd yn peri i'r gofynion hynny gael eu cyflawni.

    (2) Bydd swm unrhyw dreuliau y mae swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol yn mynd yn rhesymol iddynt wrth arfer unrhyw bwcirc er a roddwyd iddynt gan baragraff (1) uchod yn adferadwy fel dyled sifil pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol, yn ôl fel y digwydd, yn gofyn am y swm hwnnw oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio.

Tramgwyddau
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn dramgwydd o dan y Ddeddf i unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol, a hwnnw'n awdurdod neu'n esgus y bydd rhaid iddo ei brofi - 

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).

Yr Awdurdod Lleol i orfodi'r Gorchymyn
    
11.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol, neu mewn perthynas ag achos penodol, naill ai bod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ganddo ef ac nid gan yr awdurdod lleol neu fod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ar y cyd ganddo ef a chan yr awdurdod lleol.

Dirymu Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
    
12. Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 yn cael ei ddirymu[14].

Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
     13. Yn erthygl 1, paragraff (2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[15] yn lle'r geiriau "1 Rhagfyr 2002" rhoddir y geiriau "1 Chwefror 2003".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]


Jane Davidson
Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:30pm ar 4 Medi 2002


Whitty
Is-ysgrifennydd Gwladol,

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:29 am ar 5 Medi 2002



YR ATODLEN
Erthygl 3(9)



RHAN I

Y GOFYNION SYDD I'W BODLONI GAN GYFLEUSTER YNYSU AR GYFER BRIDIO

     1. Rhaid defnyddio'r cyfleuster ynysu ond er mwyn ynysu'r anifeiliaid sydd ynddo oddi wrth bob anifail arall ar y safle y mae'r cyfleuster wedi'i leoli arNo.

     2. Rhaid i'r cyfleuster ynysu fod wedi'i ddylunio er mwyn sicrhau bod gwahaniad ffisgeol rhwng yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw ynddo ac unrhyw anifeiliaid eraill ar y safle neu unrhyw safle cyffiniol arall ac yn benodol rhaid i'r cyfleuster gynnwys - 

     3. Pan fydd adeiladwaith dros dro sydd wedi'i ffurfio o fêls gwellt yn cael ei ddefnyddio i wahanu â phared ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfleuster ynysu oddi wrth unrhyw ran arall o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio felly, rhaid i'r pared fod yn un metr o drwch o leiaf.

     4. Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail nad yw'n cael ei gadw yn y cyfleuster ddod o fewn pum metr i unrhyw ddrws neu fynedfa arall i'r cyfleuster ar unrhyw adeg.

     5. Rhaid i bob drws sy'n fynedfa i unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu gael ei gadw ar gau ar bob adeg ac eithrio os yw'n cael ei ddefnyddio gan bersonau i fynd i mewn i'r cyfleuster neu i ymadael ag ef neu pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud i mewn i'r cyfleuster neu allan ohoNo.

     6. Rhaid i loriau a waliau unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu fod yn gyflawn ac mewn cyflwr digon da i'w gwneud yn bosibl ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr a rhaid iddynt gael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr felly bob amser.

     7. Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, bydd rhaid gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol  - 

     8. Rhaid darparu ar gyfer y cyfleuster ynysu gyfleuster llwytho a dadlwytho un-pwrpas y mae'n rhaid ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir ar ôl pob tro y mae'r cyfleuster llwytho a dadlwytho yn cael ei ddefnyddio.

     9. Rhaid i feddiannydd y safle y mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli ynddo sicrhau - 

     10. Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu - 

     11. Ni chaniateir symud o'r cyfleuster unrhyw fêls gwellt, sy'n cael eu defnyddio i ffurfio parwydydd yn y cyfleuster ynysu nac unrhyw ddeunyddiau porthi, porthiant neu sarn sydd yn eu lle yno ac sydd heb eu defnyddio, nes y bydd y llwyth hwnnw o anifeiliaid wedi ymadael â'r cyfleuster.

     12. Ni chaniateir symud unrhyw gorlannau, clwydi nac offer arall sydd yn eu lle pan fydd unrhyw lwyth anifeiliaid yn mynd i mewn i'r cyfleuster ynysu o'r cyfleuster nes y bydd y llwyth hwnnw wedi ymadael â'r cyfleuster oni bai eu bod wedi'u glanhau a'u diheintio'n drylwyr gyntaf.

     13. Cyn bod unrhyw gerbyd sydd wedi'i ddefnyddio at unrhyw ddiben yn y cyfleuster ynysu yn cael ei symud allan o'r cyfleuster, rhaid iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr yn unol â gofynion atodlen 1 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001[
17] ac yn ychwanegol, wrth yr allanfa i'r cyfleuster, rhaid glanhau a diheintio cylchedd cyfan teiars unrhyw gerbyd o'r fath (gan gynnwys eu gwadnau) ynghyd a'i fwâu olwynion, ei gardiau olwynion, a'i labedi llaid.

     14. Mae cyfleusterau digonol ar gael naill o fewn y cyfleuster ynysu neu'n union y tu allan iddo i'r anifeiliaid gael eu harolygu neu eu harchwilio yn unol â gofynion paragraffau (3)(e)(vi) or (3)(f)(v) o erthygl 3 heb fod yr anifeiliaid hynny yn dod o fewn pum metr i unrhyw anifeiliaid eraill nad ydynt yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu.

     15. Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw ac yn cael ei roi ar gael i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a bod y cofnod hwnnw yn dangos dyddiadau pob symudiad anifeiliaid i mewn i'r cyfleuster ynysu ac allan ohono ynghyd â manylion  - 

     16. Ni chaniateir symud unrhyw anifail allan o'r cyfleuster ynysu yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol ei gadw yno yn unol ag is-baragraffau (3)(e) neu (f) o erthygl 3 oni bai - 

     17. Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 16(b) yw - 



Rhan II

FFURF AR ADRODDIAD MILFEDDYG CYMWYSEDIG MEWN PERTHYNAS Â CHYFLEUSTER YNYSU AR GYFER BRIDIO

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Adroddiad gan filfeddyg cymwysedig ar gyfleuster ynysu ar fferm sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio gan ddefaid bridio a gwartheg bridio



















EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn dirymu a disodli (gyda diwygiadau) Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/280 (Cy.32), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1038 (Cy.110), 2002/1356 (Cy.132) a 2002/2060 (Cy.209).

Daw'r Gorchymyn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003. (Byddai effaith y Gorchymyn Rheoli Clefydau, petai heb gael ei ddirymu, wedi darfod ar 1 Rhagfyr 2002).

Mae'r Gorchymyn yn parhau i ddarparu ar gyfer mesurau dros dro i reoli clefydau. Mae'n darparu ar gyfer cyfyngiadau ar symud anifeiliaid (erthyglau 3 a 4) ac yn benodol - 

Y prif ddiwygiad yw cynnwys esemptiadau ychwanegol (yn erthyglau 3(3)(e) ac (f)) mewn perthynas â'r gofyniad segura sy'n golygu na fydd - 

yn arwain at ofyniad segura ar y safle y maent wedi'u symud iddo cyhyd ag y bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Y prif amod yw bod y gwartheg neu'r defaid bridio neu'r hyrddod bridio sydd heb eu gwerthu yn cael eu rhoi mewn cyfleuster ynysu ("cyfleuster ynysu ar gyfer bridio") yn union ar ôl iddynt gyrraedd a'u bod yn cael eu cadw yno, ynghyd ag unrhyw anifeiliaid eraill sydd eisoes yn y cyfleuster ynysu hwnnw ac unrhyw anifeiliaid y daethpwyd â hwy i mewn iddo o rywle arall ar y safle, tan ddechrau'r 21ain diwrnod ar ôl y diwrnod yr oeddent wedi cyrraedd yNo.

Mae'r gofynion manwl sydd i'w bodloni a'u dilyn mewn perthynas â'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio er mwyn i'r esemptiad segura newydd fod ar gael wedi'u nodi yn erthygl 3(9) a Rhan I o'r Atodlen. Yn ychwanegol, cyn bod modd defnyddio'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio at ddibenion yr esemptiad newydd, rhaid iddo fod wedi'i archwilio gan filfeddyg cymwysedig y mae'n ofynnol iddo gwblhau adroddiad ar ei arolygiad i raddau helaeth ar y ffurf a nodir yn Rhan II o'r Atodlen a'i anfon i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen (erthygl 3(9)(b) ac (c)). Mae'n ofynnol hefyd i'r anifeiliaid yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio gael eu harolygu gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y 14eg diwrnod ac sy'n dod i ben ar yr 20fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd yr anifeiliaid y safle ac mae'n ofynnol i'r cyfleuster gael ei arolygu hefyd gan y milfeddyg yn ystod yr un cyfnod.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn parhau i wneud y canlynol:

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio (yn erthygl 13) Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 ac O.S. 2002/2060) drwy newid y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn hwnnw yn darfod o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 c.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 1978/32 y mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud iddo gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/641.back

[3] O.S. 1983/1950, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/3119, O.S. 1995/2922 ac fel y'i diwygiwyd ymhellach, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/572 (Cy. 26), O.S. 2001/658 (Cy. 33), O.S. 2001/968 (Cy. 46), O.S. 2001/1033 (Cy. 47) (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 2001/1234 (Cy. 67), O.S. 2001/1406 (Cy. 93), O.S. 2001/1509 (Cy. 106), O.S. 2001/1874 (Cy.134), O.S. 2001/2236 (Cy. 162), O.S. 2001/2813 (Cy. 242), O.S. 2001/2981 (Cy. 248), O.S. 2001/3145 (Cy. 260), O.S. 2001/3706 (Cy. 303), ac O.S. 2001/4009 (Cy. 335).back

[4] 1998 p.46.back

[5] 1965 p.64.back

[6] O.S. 1995/539, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/118.back

[7] O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1796, O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2001/2360.back

[8] O.S. 2002/1357 (Cy.133).back

[9] O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/2662 ac O.S. 2002/281.back

[10] O.S. 1989/878, y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1993/2010.back

[11] O.S. 2000/1673, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2266, O.S. 2000/2524, O.S. 2000/2900 and 2000/3128 ac mewn perthynas â Chymru yn unig, O.S. 2002/1039.back

[12] 1981 p.37.back

[13] O.S. 2001/2662.back

[14] O.S. 2002/280 (W.32).back

[15] O.S. 2002/283 (W.34).back

[16] 1998 p.38.back

[17] S.I. 2001/2662.back



English version



ISBN 0 11 090573 3


  Prepared 30 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022304w.html