BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040679w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif679 (Cy.67)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004

  Wedi'u gwneud 9 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Awst 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 128(4)(b) a (c) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Cynllun gweithredu
     2.  - (1) Rhaid cyhoeddi datganiad o dan adran 128 o Ddeddf 2000 ("cynllun gweithredu") o fewn cyfnod o 50 diwrnod gwaith (mae hwn yn gymwys p'un ai bod gofyn cyfieithiad a'i pheidio), o'r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad priodol o dan drefniadau a wnaed gan y Prif Arolygydd.

    (2) Rhaid cyhoeddi'r cynllun gweithredu drwy sicrhau ei fod ar gael yn swyddfeydd y person a y gwasanaeth a arolygwyd, i'w archwilio ddarparodd gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol, ac ar unrhyw wefan sydd gan y person hwnnw, sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth.

    (3) Rhaid danfon copi o'r cynllun gweithredu yn rhad ac am ddim at bob un o'r canlynol  - 

    (4) Rhaid hefyd anfon copi o'r cynllun gweithredu (yn rhad ac am ddim) at unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd yn gofyn am gopi.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn datgan amserlen gyhoeddi datganiadau o dan adran 128 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a hefyd, at bwy y dylid danfon copi o'r datganiad.

Mae datganiad o dan adran 128 yn ddatganiad o'r weithred sydd yn cael ei chynnig gan yr adnabyddiaeth yr arolygwyd ei gwasanaeth, yn sgíl adroddiad ac yn dilyn arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gall y Prif Arolygydd drefnu cyhoeddi adroddiad o arolygiad wedi arolygu'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid y mae awdurdod lleol wedi ei gyfarwyddo gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w ddarparu, ei ddiogelu neu gymryd rhan ynddo.


Notes:

[1] 2000 p.21.back

[2] Gweler adran 4 o Ddeddf Ymchwiliadau Ysgolion (p.57). Amnewidiwyd y teitl presennol, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090884 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040679w.html