BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 Rhif 665 (Cy.55)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050665w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 665 (Cy.55)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 8 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1], iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno .

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dangosyddion Perfformiad
    
2. Y dangosyddion perfformiad a bennir ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, dangosyddion perfformiad o ran swyddogaethau a arferir ganddynt fel awdurdodau gwaredu gwastraff, o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod, yw'r dangosyddion perfformiad a roddir yn y tabl hwnnw.


TABL

Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt

Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Rheoli Gwastraff
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Trafnidiaeth/Priffyrdd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Diogelu'r Cyhoedd
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Effeithlonrwydd Ynni
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 8



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



ATODLEN 1
Erthygl 2


DANGOSYDDION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS1 Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd.
NS2 Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd):

    (a) y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a

    (b) y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.

NS3 (a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a

(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.

NS4 Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth.



ATODLEN 2

DANGOSYDDION TAI


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS5 (a) Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a

(b) cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro.

NS6 Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref.
NS7 Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
NS8 Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol:

      (i) unedau o gymorth fel y bo'r angen;

      (ii) lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol;

      (iii) lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro;

      (iv) lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol;

      (v) lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a

      (vi) gwasanaethau larwm cymunedol.




ATODLEN 3

DANGOSYDDION ADDYSG


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS9 Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
NS10 Nifer a chanran:

      (i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a

      (ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn amser, heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd.

NS11 Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar ddiwedd Cyfnodd Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS12 Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar diwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS13 Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer disgyblion 16 oed, mewn amgylcheddau dysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
NS14

    (a) Nifer; a

    (b) chanran y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf):

      (i) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a

      (ii) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.




ATODLEN 4

DANGOSYDDION RHEOLI GWASTRAFF


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS15

    (a) Cyfanswm mewn tunelli; a

    (b) chanran

y gwastraff trefol

      (i) a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a

      (ii) a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall.

NS16

    (a) Cyfanswm mewn tunelli; a

    (b) chanran

y gwastraff trefol pydradwy a anfonir at safleoedd tirlenwi.




ATODLEN 5

DANGOSYDDION CLUDIANT/PRIFFYRDD


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS17 Cyflwr:

    (a) prif ffyrdd (dosbarth A); a

    (b) ffyrdd dosbarthedig/nad ydynt yn brif ffyrdd.




ATODLEN 6

DANGOSYDDION DIOGELU'R CYHOEDD


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS18 (a) Nifer y busnesau uchel eu risg sy'n atebol i gael arolygiadau wedi'u rhaglenni neu weithgarwch gorfodi amgen yn ystod y flwyddyn; a

(b) canran y busnesau hyn a oedd yn agored i arolygiad wedi'i raglennu neu weithgarwch gorfodi arall a arolygwyd/a oedd yn destun gweithgarwch gorfodi arall, o ran:

     -  Safonau Masnach

     -  Hylendid Bwyd;

     -  Iechyd Anifeiliaid; ac

     -  Iechyd a Diogelwch.




ATODLEN 7

DANGOSYDDION EFFEITHLONRWYDD YNNI


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS19 (a) Canran y newid mewn allyriadau carbon deuocsid yn y stoc cyhoeddus annomestig; a

(b) canran y newid yn y defnydd o ynni ac o allyriadau carbon deuocsid yn y stoc dai.




ATODLEN 8

DANGOSYDDION Y BUDD-DALIADAU TAI A BUDD-DALIADAU'R DRETH GYNGOR


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS20 Diogelu'r budd-dal tai:

    (a) nifer yr hawlwyr yr ymwelwyd â hwy fesul 1,000 baich achos;

    (b) nifer yr ymchwilwyr i dwyll a gyflogwyd fesul 1,000 baich achos;

    (c) nifer yr ymchwiliadau i dwyll fesul 1,000 baich achos; ac

    (ch) nifer yr erlyniadau a'r sancsiynau fesul 1,000 baich achos.

NS21 Cyflymder y prosesu:

    (a) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hawliadau newydd; a

    (b) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau o newidiadau mewn amgylchiadau.

NS22 Cywirdeb y prosesu:

    (a) canran yr achosion lle'r oedd y swm o fudd-dal a gyfrifwyd i fod yn ddyledus yn gywir ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael adeg gwneud y penderfyniad, a hynny ar gyfer sampl o achosion a wiriwyd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud; a

    (b) y ganran o ordaliadau budd-dal tai a adenillwyd.




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2005.

Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.

Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:

Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2005.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091091 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 17 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050665w.html