BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005 Rhif 1512 (Cy.116)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051512w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1512 (Cy.116)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 3(3) a (4)(b), 4(1)(b), (5)(b), (6) a (7), 9(1)(a), 140(1), (7) ac (8) a 142(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

ystyr "person sydd â'r hawl i gael ei asesu" ("person entitled to be assessed") yw person a bennir yn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu yn rheoliad 5(1);

ystyr "plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth" ("non-agency adoptive child") yw plentyn - 

ond nid yw'n cynnwys person os yw'r plentyn y cyfeirir ato wedi peidio â bod yn blentyn, neu berson sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu berson a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn;

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (3) Os mewn unrhyw achos - 

Gwasanaethau a ragnodir
     3. At ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffinio "gwasanaethau cymorth mabwysiadu"), rhagnodir y gwasanaethau canlynol - 

Personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle ar eu cyfer
    
4.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 3(3)(a) o Ddeddf 2002, ddisgrifiad o'r personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar eu cyfer.

    (2) Cyngor a gwybodaeth cwnsela - 

    (3) Cymorth ariannol o dan reoliad 11 ar gyfer rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol.

    (4) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(b) (gwasanaethau i alluogi trafodaeth) fod yn eu lle ar gyfer - 

    (5) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(c) (cyswllt) fod yn eu lle ar gyfer - 

    (6) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(ch) (gwasanaethau therapiwtig) fod yn eu lle ar gyfer - 

    (7) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(d) ac (dd) (cymorth at ddibenion sicrhau bod unrhyw berthynas yn parhau a chymorth pan fydd tarfu wedi bod ar leoliad mabwysiadu) fod yn eu lle ar gyfer - 

    (8) Mae'n ofynnol gwneud y trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o ran unrhyw wasanaeth p'un a yw'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu'r gwasanaeth ar gyfer unrhyw berson ai peidio.

    (9) Caiff y gwasanaethau a bennir yn adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 neu a ragnodir yn rheoliad (3)(b) i (dd) gynnwys gwneud trefniadau gyda phersonau eraill at ddiben darparu'r gwasanaethau hynny.

Darparu gwasanaethau
    
5.  - (1) Rhagnodir y personau canlynol at ddibenion adran 3(4)(b) o'r Ddeddf (personau heblaw cymdeithasau mabwysiadu cofrestredig a gaiff ddarparu'r cyfleusterau angenrheidiol) o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu  - 

    (2) Ym mharagraff (1) ystyr "asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig" yw asiantaeth cymorth mabwysiadu a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[9] ond, o ran darparu unrhyw wasanaeth cymorth mabwysiadu, nid yw'n cynnwys asiantaeth cymorth mabwysiadu nad yw wedi'i chofrestru o ran y gwasanaeth penodol hwnnw.

Cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu
     6.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol benodi o leiaf un person ("cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu") i gyflawni'r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Swyddogaethau cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw:

    (3) Ni chaiff yr awdurdod lleol benodi person yn gynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu onid yw'n fodlon bod gwybodaeth y cynghorydd am y canlynol a'i brofiad ohonynt yn ddigonol at ddibenion y gwaith y mae ef wed'i gyflawni  - 

Rheidrwydd asesu
    
7.  - (1) Mae'r personau canlynol yn rhai a ragnodwyd at ddibenion adran 4(1)(b) o Ddeddf 2002 (asesiadau etc. ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu) - 

    (2) Os bydd person sy'n dod o fewn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu o fewn paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gwneud cais am asesiad, a bod y cais hwnnw'n ymwneud â gwasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, neu os ymddengys i'r awdurdod lleol bod modd i anghenion y person hwnnw am wasanaethau cymorth mabwysiadu gael eu hasesu'n dderbyniol drwy gyfeirio at wasanaeth cymorth mabwysiadu penodol, caiff yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad hwnnw drwy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw yn unig.

    (3) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at wasanaeth cymorth mabwysiadu penodol yn gyfeiriad at unrhyw un o'r gwasanaethau canlynol  - 

    (4) Pan fydd awdurdod lleol ("yr awdurdod lleoli") yn ystyried lleoli plentyn sy'n derbyn gofal gan ddarpar fabwysiadydd sy'n preswylio yn ardal awdurdod lleol arall ("yr awdurdod adennill"), rhaid i'r awdurdod lleoli ymgynghori yn ysgrifenedig â'r awdurdod adennill am y lleoliad ac am ganlyniadau'r asesiadau a wnaed yn unol ag adran (4)(1) a (2) o Ddeddf 2002 ac yn benodol am allu'r asiantaethau yn ardal yr awdurdod adennill i ddarparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu a nodwyd.

    (5) Rhaid i awdurdod lleoli ganiatáu cyfnod o 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â pharagraff (4) cyn y gall y panel mabwysiadu ystyried lleoli'r plentyn yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru).

    (6) Pan fydd awdurdod adennill wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r panel mabwysiadu a'r asiantaeth fabwysiadu roi sylw i'r ymateb hwnnw wrth ystyried lleoli plentyn, y naill yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) a'r llall yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru).

Y weithdrefn asesu
    
8.  - (1) Pan wneir cais am asesiad o anghenion am wasanaethau cymorth mabwysiadu gan berson sydd â'r hawl i gael ei asesu a phan fydd awdurdod lleol yn cynnal asesiad o anghenion y person hwnnw am y gwasanaethau hynny, wrth gynnal yr asesiad rhaid i'r awdurdod roi sylw i'r ystyriaethau canlynol - 

    (2) Rhaid i berson sydd â'r cymwysterau, y profiad a'r sgiliau addas sy'n angenrheidiol at ddibenion asesu gynnal yr asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth mabwysiadau, neu oruchwylio'r asesiad hwnnw.

    (3) Pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gynnal ar gais person perthynol, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried anghenion y person hwnnw dim ond i'r graddau y maent yn ymwneud â'i angen am gymorth er mwyn ei alluogi i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cyswllt â'r plentyn mabwysiadol a wnaed cyn y cais am asesiad.

    (4) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol y gall fod angen darparu ar gyfer person yr asesir ei anghenion, wasanaethau - 

rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod addysg lleol hwnnw.

    (5) Pan fydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan y rheoliad hwn a phan fydd yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo  - 

Hysbysu am asesiad
    
9.  - (1) Ar ôl cynnal asesiad o dan reoliad 8, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliad 13 - 

    (2) Yr wybodaeth a bennir yw  - 

    (3) Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (2) yr hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.

    (4) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan reoliad 13 hyd oni fydd naill ai  - 

Cynllun
    
10.  - (1) Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 4(5)(b) o Ddeddf 2002 yw bod yr awdurdod lleol yn bwriadu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar fwy nag un achlysur yn unig.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'r cynllun y cyfeirir ato yn adran 4(5) o Ddeddf 2002 (ac y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y cynllun") i'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2).

    (3) At ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori  - 

    (4) Os yw'r awdurdod lleol, o dan reoliad 13, yn penderfynu darparu unrhyw wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, ac os yw'n ofynnol iddo o dan y rheoliad hwnnw roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw, rhaid iddo - 

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r cynllun  - 

Amgylchiadau pryd y gellir talu cymorth ariannol
    
11.  - (1) Ni ellir talu cymorth ariannol ond i riant mabwysiadol, a dim ond o dan un neu ragor o'r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Dyma'r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 

    (3) Cyn y gellir talu cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r rhieni mabwysiadol fod wedi cytuno - 

Swm y cymorth ariannol
    
12.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn asesu anghenion person am gymorth ariannol.

    (2) Pan fydd paragraff (4) yn gymwys, a phan na fydd paragraff (5) yn gymwys, wrth benderfynu swm y cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r ystyriaethau ym mharagraff (6) sy'n berthnasol i'r achos dan sylw.

    (3) Pan fydd paragraff (5) yn gymwys, wrth benderfynu swm y cymorth ariannol, ni chaiff yr awdurdod lleol roi sylw i unrhyw un o'r ystyriaethau ym mharagraff (6).

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried darparu cymorth ariannol mewn cysylltiad â gwariant at ddibenion cynorthwyo i leoli plentyn gyda'r rhieni mabwysiadol i'w fabwysiadu a chynorthwyo'r lleoliad hwnnw i barhau yn sgil gwneud gorchymyn mabwysiadu gan gynnwys - 

    (5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried darparu cymorth ariannol mewn perthynas â  - 

    (6) Dyma'r ystyriaethau - 

    (7) Ni thelir cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion i'r graddau y mae unrhyw fudd-dal neu lwfans sy'n gymwys i'r rhieni mabwysiadol oherwydd eu bod wedi mabwysiadu'r plentyn yn daladwy neu ar gael iddynt mewn perthynas â'r anghenion hynny.

    (8) Ac eithrio pan fydd paragraffau (9) a (10) yn gymwys, ni chaiff y cymorth ariannol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol gynnwys unrhyw elfen o ad-daliad ar gyfer gofalu am y plentyn gan y rhieni mabwysiadol.

    (9) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan - 

    (10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys  - 

Penderfyniad i ddarparu cymorth
    
13.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan roi sylw i'r asesiad ac unrhyw sylwadau a wnaed yn sgil yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 9, benderfynu  - 

ac, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad hwnnw, a rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad a chopi o'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 10.

    (2) Pan fydd y cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 10(2) yn cynnwys darparu'r rgwasanaethau gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod lleol roi copi o'r rhan honno o'r cynllun sy'n cyfeirio at y gwasanaethau hynny i'r bwrdd iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu'r awdurdod addysg lleol fel y bo'n briodol.

    (3) Caiff yr awdurdod lleol osod yr amodau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol ar dalu cymorth ariannol, a chaiff gynnwys amodau  - 

    (4) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod cymorth ariannol i'w dalu, rhaid iddo gael ei dalu yn un taliad ac eithrio os  - 

    (5) Rhaid i'r materion canlynol gael eu pennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (1)  - 

Hysbysiadau
    
14. Rhaid rhoi unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei rhoi, neu unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi, o dan reoliadau 9, 10 a 13, yn ysgrifenedig  - 

Cyfrifoldebau awdurdodau lleol am leoliadau y tu allan i'r ardal
    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae adran 4 o Ddeddf 2002 yn gymwys i awdurdod lleol o ran y personau canlynol sydd y tu allan i ardal yr awdurdod lleol  - 

    (2) Bydd adran 4 o Ddeddf 2002 yn peidio â bod yn gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar ddiwedd y cyfnod o dair blynedd yn cychwyn ar y dyddiad mabwysiadu, ac eithrio pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu cymorth ariannol a bod y penderfyniad i ddarparu'r cymorth hwnnw wedi'i wneud cyn y dyddiad mabwysiadu, a bydd rheoliad 17(9) yn gymwys o dan yr amgylchiadau hynny.

    (3) Pan  - 

caiff yr awdurdod adennill adennill oddi wrth yr awdurdod lleoli unrhyw dreuliau sy'n codi o ddarparu cymorth o'r fath.

    (4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys os cyngor a gwybodaeth o dan adran 2(6)(a) o Ddeddf 2002 yw'r gwasanaeth a ddarperir gan yr awdurdod adennill.

    (5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag darparu gwasanaethau mabwysiadu ar gyfer person y tu allan i'w ardal pan fydd yn ystyried ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

Adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu
    
16.  - (1) Pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer person, neu pan fydd wedi eu darparu yn ystod y deuddeng mis blaenorol, rhaid iddo adolygu darpariaeth y gwasanaethau hynny os daw'n hysbys iddo fod unrhyw newid yn amgylchiadau'r person.

    (2) Bydd paragraffau (1) i (4) o reoliad 8 yn gymwys i adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i asesiad o dan reoliad 8.

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol, o ran yr adolygiad  - 

    (4) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer y person, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) o reoliad 9; ac mae paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys i'r paragraff hwn fel y maent yn gymwys i baragraff (1)(b) o'r rheoliad hwnnw.

Adolygu cymorth ariannol
    
17.  - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol - 

    (2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.

    (3) Caiff yr awdurdod lleol amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yn ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 13(3), caiff yr awdurdod lleol - 

    (5) Os y gofyniad i roi datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c) yw'r amod na chydymffurfir ag ef, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (4) hyd nes - 

    (6) Ar ôl iddo gymryd y camau a bennir ym mharagraff (5), os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (4) y dylid atal cymorth ariannol, caiff godi'r ataliad pan fydd wedi cael y datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c).

    (7) Rhaid i'r awdurdod lleol orffen talu cymorth ariannol pan - 

    (8) Mae rheoliadau 9, 10 a 12 yn gymwys mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys o ran asesiad o dan reoliad 8.

    (9) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad o'r bwriad yn unol â rheoliad 9(1), ac mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y bwriad a bydd paragraffau (3) a (4) o reoliad 13 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (3) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

Dirymiadau a darpariaeth drosiannol
    
18.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991[10] a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004[11] ("Rheoliadau 2004").

    (2) Mae unrhyw asesiad, cynllun neu wasanaeth cymorth mabwysiadu sy'n cael ei baratoi neu sydd wedi'i baratoi, neu, yn ôl y digwydd, sy'n cael ei ddarparu (mae "cael ei ddarparu" yn cyfeirio at wasanaeth) o dan Reoliadau 2004 yn union cyn y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, i'w drin fel asesiad, cynllun neu wasanaeth o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol o'r dyddiad hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel rhan o'r gwasanaeth y maent yn ei gynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Caiff gwasanaethau cymorth mabwysiadu eu diffinio gan adran 2(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth, a gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhagnodi gan reoliadau, sy'n ymwneud â mabwysiadu. Caiff y gwasanaethau hynny eu rhagnodi yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac maent yn cynnwys cymorth ariannol (rheoliad 3(a)). Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i bersonau y mae'n bosibl y bydd mabwysiadu plentyn yn effeithio arnynt (rheoliad 6).

Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r personau hynny sy'n gallu darparu cymorth mabwysiadu.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r personau, ac eithrio'r sawl a grybwyllir yn adran 3(1) o'r Ddeddf, sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 8 yn pennu'r weithdrefn asesu. Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 9 am y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'n bwriadu eu darparu. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei baratoi y mae'n rhaid darparu gwasanaethau yn unol ag ef. Mae rheoliad 11 yn pennu'r personau y caniateir talu cymorth ariannol iddynt a'r amgylchiadau pryd y caniateir ei dalu iddynt. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer swm y cymorth ariannol sy'n daladwy. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu, gan ystyried yr asesiad, ei fwriadau a hysbysir o dan reoliad 9, ynghyd ag unrhyw sylwadau a wneir am y bwriadau hyn, a phenderfynu pa wasanaethau y mae i'w darparu ac unrhyw amodau sydd i'w gosod, a rhoi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 15 yn disgrifio cyfrifoldebau awdurdodau lleol dros leoli y tu allan i'w hardal ac mae'n galluogi awdurdod lleol i adennill cost darparu gwasanaethau oddi wrth yr awdurdod sydd wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu yn ei ardal.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn darparu ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu a chymorth ariannol.

Drwy reoliad 18, mae Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 a Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004 yn cael eu dirymu, ac mae darpariaeth drosiannol yn cael ei gwneud.


Notes:

[1] 2002 p.38. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr "appropriate Minister a ddiffinnir o ran Cymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 144(1)). Mae'r "appropriate Minister" wedi'i ddiffinio yn adran 144(1), o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] 1996 p.56.back

[3] 2002 p.21. Gweler adran 8 am y diffiniad o gredyd treth plant.back

[4] 1992 p.4.back

[5] 1995 p.18.back

[6] O.S. 2005/1313 (Cy.95).back

[7] O.S. 2003/237 (Cy.35).back

[8] 1989 p.41. Gweler adran 22(1) am y diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.back

[9] 2000 p.14.back

[10] O.S. 1991/2030.back

[11] O.S. 2004/1011 (Cy.108).back

[12] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091148 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051512w.html