BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 Rhif 41 (Cy.7)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060041w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 41 (Cy.7)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 10 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 13 Ionawr 2006 

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2], drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) uchod a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

Ceisiadau
     3. Gwneir cais gan berson cymwys i ymuno â chynllun Tir Cynnal ar yr adeg honno a'r ffurf honno a bydd y cais yn cynnwys neu amgaeir gydag ef unrhyw wybodaeth y gofynno'r Cynulliad Cenedlaethol amdani a bydd y cais yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol.

Pŵer i ymrwymo i gytundebau
    
4. —(1) Mewn unrhyw achos pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, mewn perthynas ag unrhyw dir, y byddai'r amodau canlynol o blith y rhai a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen, a chyflawni gweithgareddau gan unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir hwnnw, yn ffafriol i'r dibenion penodedig, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) isod, ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal gyda'r person cymwys hwnnw.

    (2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr cytundeb Tir Cynnal yw cytundeb sy'n parhau mewn grym am gyfnod o bum mlynedd o leiaf, sy'n darparu bod y deiliad cytundeb i gydymffurfio â'r amodau a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen mewn perthynas â'r tir cytundeb ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cymorthdaliadau i'r deiliad cytundeb o ran dilyn yr amodau hynny ar y tir cytundeb.

    (3) Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal mewn amgylchiadau y mae Erthygl 42 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n awdurdodi disodli ymgymeriad neu gytundeb amaeth-amgylcheddol gan ymgymeriad neu gytundeb arall o'r fath) yn gymwys iddynt onid yw wedi'i fodloni bod yr amodau yn yr Erthygl honno'n cael eu cyflawni.

    (4) Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal onid oes o leiaf 3 hectar o dir yn ddarostyngedig i'r cytundeb hwnnw.

    (5) Bydd cytundeb Tir Cynnal—

Amodau talu cymhorthdal
    
5.

    (1) Bydd unrhyw ofyniad mewn cytundeb Tir Cynnal i dalu cymhorthdal i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r amod bod person yn berson cymwys ac i'r amodau canlynol hefyd —

    (2) y gellir addasu'r amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy o dan gynllun Tir Cynnal ar unrhyw adeg, gan gynnwys addasiad a osodir o ganlyniad i newidiadau a wneir yn y dyfodol i Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2002-2006 ac unrhyw gynllun sy'n ei olynu.

Taliadau
    
6. Caniateir talu cymhorthdal o dan unrhyw gytundeb Tir Cynnal yn ystod cyfnod talu blynyddol y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ceisiadau
    
7. —(1) Bydd cais gan ddeiliad cytundeb Tir Cynnal am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu mynnu ac yn cynnwys yr wybodaeth y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdani.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgorffori'r cais am daliadau Tir Cynnal yn Ffurflen Taliadau'r Cais Sengl.

Terfynau Ariannol
    
8. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ar unrhyw adeg, oherwydd cyfanswm nifer y ceisiadau am grant a gymeradwywyd neu a ddaeth i law eisoes, fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu grant o dan gynllun Tir Cynnal yn ystod unrhyw gyfnod yn annigonol ar gyfer unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n deillio o gymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, o ran unrhyw gais a fydd wedi dod i law ar ddyddiad gwneud ei benderfyniad ond nas derbyniwyd eto, neu unrhyw gais a ddelo i law yn ystod y cyfnod perthnasol—

Ceisiadau hwyr
    
9.

    (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os bydd y ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Cynnal o ran blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad cau a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y swm sy'n daladwy fel arall yn cael ei ostwng o un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau hyd y dyddiad y daeth y cais i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (p'un ai diwrnodau gwaith ai peidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Cynnal.

    (3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os ac i'r graddau bod cais wedi'i gyflwyno'n hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure.

Hysbysiad o newid ym meddiannaeth y tir
    
10. —(1) Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal (neu, os yw'r deiliad cytundeb Tir Cynnal wedi marw, ei gynrychiolydd personol) yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid ym meddiannaeth y tir cytundeb neu unrhyw ran o'r tir cytundeb os yw'r newid yn digwydd tra bo'r cytundeb Tir Cynnal mewn grym.

    (2) Rhoddir hysbysiad o dan y rheoliad hwn o fewn tri mis ar ôl y newid ym meddiannaeth y tir o dan sylw.

    (3) Pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth y cyfan neu ran o unrhyw dir cytundeb, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol gyda'r meddiannydd newydd mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth, yna bernir bod y cytundeb hwnnw, at ddibenion cyfrifo blynyddoedd cytundeb, wedi cychwyn ar y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb gwreiddiol.

    (4) Os yw'r meddiannydd newydd yn dewis peidio ag ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth yna gall y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdalaiadau sydd yn daladawy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn, a gall adennill y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdal a dalwyd iddo ef neu hi.

    (5) Bydd darpariaethau uchod y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i Erthygl 36 o Reoliad y Comisiwn Rhif 817/2004 (sy'n rheoli trosglwyddiadau daliadau).

Symiau o gymhorthdal
    
11. Bydd cymorthdaliadau a delir mewn perthynas â'r amodau adran fferm gyfan a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen ar yr adeg y daw'r offeryn hwn i rym fel y'u hamlinellwyd yn Rhan 4 o'r Atodlen—

Rhwymedigaeth i ganiatáu mynd ar y tir ac arolygu
    
12. —(1) Bydd deiliad Cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw berson, a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno tystiolaeth o'i awdurdod pan ofynnir amdani, fynd ar y tir y mae cytundeb Tir Cynnal yn berthnasol iddo at ddibenion —

    (2) Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—

Atal cymhorthdal a'i adennill
    
13. —(1) Os bydd unrhyw ddeiliad cytundeb Tir Cynnal, gyda'r bwriad o gael cymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu ran o unrhyw gymorthdaliadau sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath o dan y Rheoliadau a chaiff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau 71 a 72 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog daliadau a delir ar gam, ar gyfer system gosb ac ar gyfer gwaharddiad am wneud datganiadau ffug) adennill y cyfan neu ran o unrhyw symiau a dalwyd eisoes o dan y Rheoliadau yn gymhorthdal i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath.

    (2) Os bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal—

caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb hwnnw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal a dalwyd eisoes i'r deiliad.

    (3) Bydd unrhyw anghydfod mewn unrhyw achos penodol ynghylch atal neu adennill cymhorthdal drwy gyfeiriad at baragraff (1) neu (2) uchod yn cael ei gyfeirio at un cymrodeddwr a'i benderfynu ganddo a bydd y cymrodeddwr yn un y cytunir arno gan y partïon neu, os methir cael cytundeb, yn un sydd i'w benodi gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn unol â darpariaethau Deddf Cymrodeddu 1996[
6] neu unrhyw addasiad neu ddeddfiad statudol ohoni sydd mewn grym am y tro.

    (4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn atal neu'n adennill cymhorthdal o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y mae hynny o ganlyniad i Erthygl 20(2) yn Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau sy'n effeithiol, yn gymesur â'u diben ac sy'n ddigon o ataliad o ran eu heffaith iddynt gael eu gosod am dorri ymgymeriadau), ei gwneud yn ofynnol i'r deiliad cytundeb dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol swm sy'n hafal i ddim mwy na 10% o'r cymhorthdal a dalwyd neu sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn.

    (5) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gamau a bennir ym mharagraff (1), (2) neu (4) uchod, caiff hefyd derfynu'r cytundeb y cyfeirir ato ynddynt drwy roi hysbysiad o'r terfyniad hwnnw i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal.

    (6) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5) uchod yn tynnu'n ôl gytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw gam a gymerir o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y bo o ganlyniad i Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r deiliad cytundeb, wahardd y deiliad cytundeb rhag darparu ymgymeriad newydd neu rhag ymrwymo i gytundeb newydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol am gyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) sy'n cychwyn ar ddyddiad y terfyniad hwnnw fel a bennir yn yr hysbysiad.

Adennill llog
     14. —(1) Os telir cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn a'i bod, yn rhinwedd Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog gymorthdaliadau a delir ar gam), yn ofynnol ad-dalu gyda llog y cyfan neu ran o'r cymhorthdal, bydd cyfradd y llog un pwynt canran yn uwch na LIBOR a hynny ar sail ddyddiol.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.

    (3) Mewn unrhyw achosion a fydd yn ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r raddfa sy'n gymwys yn y cyfnod a bennir os bydd y dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r raddfa honno.

Adennill taliadau
    
15. Mewn unrhyw achos pan fo swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu Reoliad y Comisiwn i'r graddau y mae'n ymwneud â thir cytundeb, neu yn rhinwedd camau a gymerir oddi tanynt, bydd modd adennill y swm sydd i'w dalu felly fel dyled.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006



YR ATODLEN


RHAN 1—

ADRAN FFERM GYFAN

Amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy mewn perthynas â'r cyfan o'r tir sydd o dan gytundeb. Mae'r amodau fel a ganlyn:



RHAN 2 —

CYNEFINOEDD BYWYD GWYLLT

Mae'n un o ofynion Cynllun Tir Cynnal bod y cynefinoedd bywyd gwyllt sy'n bodoli ar y tir cytundeb yn cael eu gwarchod rhag niwed. Rhaid i o leiaf 5% o'r tir cytundeb fod yn gynefinoedd bywyd gwyllt.

Y prif grwpiau o gynefinoedd bywyd gwyllt yw'r canlynol (ond nid yw'r rhestr yn un gyflawn):

Coetir llydanddail: coetir, gan gynnwys llennyrch a rhodfeydd cysylltiedig, y mae o leiaf 50% o'r coed sydd ynddo yn goed brodorol neu'n goed yw. Cynhwysir coetir gwlyb o wern neu helyg a hefyd berllannau'n cynnwys coed ffrwythau hirgyff. Caniateir cynnwys coetir sy'n ymgorffori coed coniffer ar yr amod bod y rhywogaethau brodorol sydd ynddo yn gorchuddio mwy na 50% o'r arwynebedd (er y gellir cynnwys y rhai sydd â llai na 50% o rywogaethau brodorol os ydynt ar safleoedd coetiroedd hynafol).

Prysgwydd: ardaloedd lle y mae mwyafrif y prysgwydd yn rhai brodorol megis y ddraenen wen, y ddraenen ddu, eithin, ysgaw, bedw neu fwyar duon.

Gweundir: ardaloedd lle y mae o leiaf 25% o'r llystyfiant yn cynnwys corlwyni megis grug, llus ac eithin mân. Fe'u ceir mewn ystod o leoliadau o ardaloedd arfordir ac iseldir i ucheldiroedd. Mae gweundiroedd ucheldir, sydd fel arfer yn uwch na therfyn caeau amaethyddol, yn aml yn gysylltiedig â chynefinoedd rhostir megis corsydd a phorfa asid.

Gweundiroedd mynydd-dir uchel: yn fwyaf nodweddiadol, gorchuddir y rhan helaethaf o'r rhain, sydd hefyd yn cael eu cynnwys, gan fwsoglau, cennau, glaswellt prin a chlytiau o dir caregog heb lystyfiant.

Porfa: Ystod o gynefinoedd yn cynnwys porfa na chafodd ei gwella, porfa led naturiol, caeau gwair traddodiadol a phorfeydd corsiog, na fu unrhyw drin arnynt, na chawsant eu hau o'r newydd, na thaenwyd chwynladdwyr arnynt ac na chawsant eu draenio yn ystod y deng mlynedd diwethaf neu fwy. Ar y mwyaf ni fyddant wedi'u gwrteithio ond yn ysgafn â gwrtaith anorganig a nodwedd y cynefin fydd na fydd yno neu prin y bydd yno rywogaethau porfa a gafodd ei gwella megis rhygwellt parhaol a meillion gwyn. Os bydd y rhain yn fwy na 25% o'r glaswellt dylai'r tir gael ei ddosbarthu fel porfa a gafodd ei gwella ac nis cynhwysir yn gynefin o dan gynllun Tir Cynnal.

Gwlyptiroedd: Mathau o dir sy'n cynnwys corsydd, gwelyau brwyn, mignenni a ffeniau. Fe'u ceir ar fawn dwfn a/neu lle y mae'r tabl dŵr ar yr un lefel â'r tir neu'n uwch am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

Ardaloedd arfordirol: Maent yn cynnwys morfeydd heli a thwyni tywod, yn ogystal â phrysgwydd arfordirol, gweundir, a phorfeydd y mae'r grwpiau cynefin blaenorol yn eu gorchuddio.

Mae'r rhestr uchod yn diffinio'r prif fathau o gynefinoedd, ond gellir cynnwys yn gynefin Tir Cynnal ardaloedd neu gyrff lled naturiol eraill o ddŵr megis pyllau dŵr.

Diogelu Cynefinoedd Bywyd Gwyllt — Amodau


Os nad oes digon o dir i fodloni'r rheol 5% gellir cynnwys gwrychoedd neu berthi sy'n bodoli a chynefinoedd/neu gynefinoedd newydd a gaiff eu creu er mwyn bodloni'r gofyniad hwn a'u cyfrif yn rhan o'r ardal gynefin.

Gwarchodir yn y cynllun yr holl wrychoedd neu berthi o dan amodau'r adran fferm gyfan yn Rhan 1. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer bod yn rhan o ardal gynefin, rhaid i wrychoedd neu berthi o'r fath:

Os yw'r ardaloedd cynefin (ynghyd â gwrychoedd neu berthi cymwys os cynhwyswyd y rhain) yn dod i lai na 5% o dir y fferm bydd angen i'r ffermwr nodi ardaloedd o dir wedi'i wella lle y caiff cynefinoedd newydd eu creu. Bydd yn ofynnol i'r ardaloedd newydd hyn, o ychwanegu unrhyw gynefin sy'n bodoli atynt, fod yn gymaint â'r isafswm o 5% neu'n fwy na hynny.

Mae saith opsiwn ar gael i'r ffermwr o dan y cynllun o ran creu cynefin. Gall y ffermwr ddewis un neu fwy i weddu i reolaeth y fferm. Mae'r opsiynau fel a ganlyn:

     1. Creu coridorau glannau nentydd gydag ymyl cyrsiau dŵr.

     2. Taenu llai ar dir a hynny i adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella.

     3. Gadael lleiniau ymyl o rawnfwyd heb ei dorri ar dir grawnfwydydd.

     4. Creu lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd.

     5. Plannu coed llydanddail ar raddfa fechan.

     6. Sefydlu cnydau gorchudd i adar gwyllt.

     7. Sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir.

Rhagnodau ar gyfer creu coridor glannau nentydd


Rhagnodau ar gyfer taenu llai a hynny er mwyn adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella


Rhagnodau ar gyfer gadael lleiniau ymyl heb eu torri ar dir grawnfwydydd


Rhagnodau ar gyfer lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd


Yn ogystal ag o leiaf 3 kg/ha o naill ai meillion coch, meillion Sweden neu bys-y-ceirw.


Rhagnodau ar gyfer plannu coed llydanddail ar raddfa fechan


Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnwd gorchudd i adar gwyllt


Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir




RHAN 3 —

CYNLLUN RHEOLI ADNODDAU FFERM

Bydd yn rhaid i bob un sy'n cymryd rhan gwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm. Bydd angen i brif adran y cynllun adnoddau fferm gael ei chwblhau o fewn 6 mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n cymryd rhan ddiweddaru'r ddogfen, drwy wneud newidiadau iddi pan fo hynny'n ofynnol.

Bydd angen paratoi'r Cynllun a'i ddangos i un o Swyddogion y Cynulliad pan fydd yn amser arolygu'r fferm.

Os yw fferm yn cynhyrchu, storio neu'n gwaredu slyri, tail buarth fferm, neu ddeunydd gwastraff organig arall, mae Cynllun Rheoli Tail yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Tail sy'n ymwneud â'r ardal gytundeb ar gael eisoes, mae'n ofynnol i'r deiliad cytundeb baratoi un, gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw.

Rhaid cwblhau'r Cynllun Rheoli Tail o fewn deuddeng mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Os taenir gwrtaith organig neu anorganig ar y tir cytundeb, mae Cynllun Rheoli Maetholion Pridd yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Maetholion Pridd ar gael yn hwylus, rhaid i'r parti arall baratoi un gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw. Rhaid paratoi'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd o fewn deuddeng mis i ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Rhaid adolygu prif ran y Cynllun Rheoli Adnoddau, ac os ydynt yn ofynnol, y Cynllun Rheoli Tail a'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd, a hynny'n flynyddol o leiaf neu'n fwy aml os bernir gan y Cynulliad Cenedlaethol fod angen hynny.



RHAN 4 —

TALIADAU

Telir o dan y Rheoliadau yn flynyddol fesul hectar fel a ganlyn:

Gwneir taliadau'n flynyddol ar ffurf ôl-daliadau.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 a chynhwysir y fframwaith manwl ar gyfer gweithredu'r Rheoliad Cyngor hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud amryw daliadau grant i unrhyw berson sy'n ymrwymo i gytundeb gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'r person hwnnw'n cytuno i gymryd rhan yng nghynllun amaeth-amgylcheddol Tir Cynnal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw darparu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan mewn gwaith o natur amaeth-amgylcheddol ar eu tir drwy ddilyn set sylfaenol o amodau a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn er mwyn gwarchod ardaloedd a nodweddion o bwys amgylcheddol ar eu tir. Mae'r Cynllun yn gofyn am lefelau o warchodaeth amgylcheddol sy'n uwch na gofynion y gyfraith a thraws-gydymffurfio, ond nid ydynt mor gaeth â rhai Tir Gofal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw rhwystro bioamrywiaeth rhag cael ei golli, diogelu nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd.

Os yw buddiolwr cynllun Tir Cynnal yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu os torrir y cytundeb Tir Cynnal, yna caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal taliadau grant yn y dyfodol neu adennill, o ofyn amdano, unrhyw grant a dalwyd eisoes i'r buddiolwr.

Os yw'n fwriad gan y Cynulliad Cenedlaethol i atal neu adennill grant, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r buddiolwr a chaniatáu i'r buddiolwr wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol o amser. Rhaid rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Cynhyrchwyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn, a gellir cael copïau ohono gan Is-adran yr Amgylchedd, Cadwraeth a Rheoli, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766back

[2] 1972 p.68back

[3] 1971 p.80back

[4] OJ Rhif L74/1, 26.2.04back

[5] OJ Rhif L343, 23.6.99back

[6] 1996 p.23back

[7] 1998 p.68back



English version



ISBN 0 11 091251 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 16 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060041w.html